RHAGLEN ARWEINYDDIAETH GYDWEITHREDOL A THOSTURIOL

Dydd Llun 16 Mehefin 1pm i 1:45pm ar MS Teams

Sesiwn Wybodaeth

A ydych yn uwch arweinydd mewn gofal cymdeithasol? Ydych chi’n chwilfrydig am sut y gall y rhaglen hon gefnogi eich datblygiad a helpu i sbarduno newid ledled y sector?

Beth i’w ddisgwyl:

  • Trosolwg o’r rhaglen Arweinyddiaeth Gydweithredol a Thosturiol
  • Sut mae’r rhaglen yn cefnogi arweinyddiaeth addasol, gydweithredol mewn gofal cymdeithasol
  • Cyfle i ofyn cwestiynau a mewnbwn i gynllunio’r rhaglen

Ymunwch â ni am sesiwn anffurfiol am ddim i ddarganfod mwy! I ymuno â’r sgwrs cysylltwch â rebecca.cicero@socialcare.wales