Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) Llywodraeth Cymru yw creu Cymru well. Mae’n cynnwys dyletswydd gyfreithiol i sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) ar gyfer Powys.

csm_PSB_and_Wellbeing_Plan_Logo_0d3e837e5e

Swyddogaeth

Rôl y PSB yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Powys trwy gydweithio’n well ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus.

Dyletswydd y PSB yw:

  • Asesu llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ym Mhowys – Asesiad Llesiant Powys
  • Gosod amcanion sy’n cyfrannu at y nodau llesiant - Cynllun Llesiant Powys

Mae’n rhaid i’r PSB ymgynghori’n helaeth. Hefyd mae’n rhaid i’r PSB gynnal adolygiad blynyddol o Gynllun Llesiant Powys er wyn dangos cynnydd.

Aelodaeth

Mae aelodaeth statudol PSB Powys fel a ganlyn:

  • Cyngor Sir Powys
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae PSB Powys yn gorfod gwahodd y sefydliadau canlynol i gyfrannu:

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
  • Heddlu Dyfed-Powys
  • Cynrychiolydd Trydydd Sector: Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO)
  • Cynrychiolydd y Gwasanaeth Prawf ym Mhowys: Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
  • Cynrychiolydd ar ran Gweinidogion Cymru: Pennaeth Ynni, Dŵr a Bwyd
  • Cytunwyd hefyd i wahodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i gyfrannu at waith PSB Powys.

Cynrychiolaeth PAVO/Trydydd Sector:

Clair Swales (Prif Weithredwr PAVO) a Martin Nosworthy (Cadeirydd PAVO)

Amserlen Cyfarfod: 4 gwaith y flwyddyn.

Adroddiadau Blynyddol PSB Powys

Cymeradwywyd Cynllun Llesiant Powys ym mis Mehefin 2023 ac mae’n cynnwys 3 amcan lleol a 3 cham llesiant i gyflawni’r amcanion hynny, gan nodi sut y mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus eisiau i Bowys edrych yn y dyfodol.

Mae Cynllun Llesiant Powys wedi’i ddatblygu i ddarparu gweledigaeth hirdymor o lesiant ym Mhowys.

PSB_Well-being_Plan