PAVO > Polisi a Phartneriaethau
Yn dylanwadu
Fel llais cyfreithlon dros gymunedau a thrydydd sector Powys, mae PAVO yn cynrychioli'r sector a phobl sy'n byw ym Mhowys ar gyrff cyhoeddus i gyd-gynhyrchu gwasanaethau a dylanwadu ar ddatblygu polisïau, cynllunio a darparu gwasanaethau.
Rydym yn rhoi adborth i'r cyrff cyhoeddus perthnasol ar y materion a godwch yn ein rhwydweithiau, fforymau a digwyddiadau cymunedol. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad presennol a photensial cymunedau a sefydliadau'r trydydd sector.