Pobl ifanc yn cael dweud eu dweud wrth i brosiectau cymunedol dderbyn £4,000
Mae wyth prosiect dan arweiniad pobl ifanc ar draws Powys wedi derbyn cyfran o £4,000 trwy gynllun grant sy’n rhoi pobl ifanc wrth wraidd penderfyniadau am sut mae cyllid yn cael ei ddyrannu.
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru ac wedi’i reoli gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), gwahoddwyd pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed i wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau sy’n cael eu harwain gan bobl ifanc, yn creu cyfleoedd gwirfoddoli ac yn rhoi budd i’w cymunedau.
Bydd y prosiectau llwyddiannus yn dod â phobl ynghyd trwy weithgareddau yn cynnwys digwyddiadau cymunedol, garddio, theatr, gweithdai creadigol a gwirfoddoli.
Cymerwyd y penderfyniadau ariannu gan banel o dri o bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed, gan roi lle canolog i leisiau pobl ifanc yn y broses a rhoi llais uniongyrchol iddynt ynghylch pa brosiectau a gafodd gefnogaeth.
Y prosiectau llwyddiannus yw:
Cymdeithas Myfyrwyr Coleg y Mynydd Du – Bydd pantomeim cymunedol fforddiadwy a chynhwysol yn dod â myfyrwyr a thrigolion lleol ynghyd, gan roi cyfleoedd i bobl ifanc wirfoddoli, meithrin cysylltiadau a chyfrannu at eu cymuned.
CFfI Cantal – Bydd cyfres o bum digwyddiad gyrfa chwist cymunedol yn dod â chenedlaethau gwahanol ynghyd, gan helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd yn y gymuned wledig wrth greu cyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc.
Hay Theatre CIC – Bydd cynhyrchiad o ddrama Shakespeare, Much Ado About Nothing, gyda thro Cymreig, yn dod â theatr fyw hygyrch i’r gymuned. Bydd gwirfoddolwyr ifanc yn datblygu sgiliau creadigol a pherfformio, ochr yn ochr â gweithdai sy’n eu cysylltu ag aelodau hŷn o Gaffi Dementia HayDay.
CFfI Libanus – Bydd rhaglen o weithgareddau gwirfoddoli dan arweiniad pobl ifanc yn gwella mannau lleol trwy brosiectau fel plannu a chasglu sbwriel, wrth ddatblygu hyder, arweinyddiaeth a gwaith tîm ac yn cryfhau cysylltiadau â’r gymuned ehangach.
CFfI Llanbadarn Fynydd – Bydd noson bingo’r gaeaf yn dod â’r gymuned ffermio wledig ynghyd ar gyfer digwyddiad cymdeithasol fforddiadwy, gyda gwirfoddolwyr ifanc yn ennill profiad o drefnu a rhedeg gweithgareddau cymunedol.
Platform 1 – Bydd rhaglen greadigol o ffotograffiaeth, gwneud llyfrau a barddoniaeth yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc archwilio hunaniaeth a hunanfynegiant, datblygu sgiliau, meithrin cysylltiadau a gwirfoddoli mewn gofod cymunedol cynhwysol.
CFfI Llanandras – Bydd prosiect garddio cymunedol yn creu gerddi blodau a blychau planhigion ar gyfer mannau lleol, gan gynnwys cartref gofal a chanolfan gofal dydd. Bydd gwirfoddolwyr ifanc yn arwain y prosiect, gan ddatblygu sgiliau ymarferol, sgiliau gwaith tîm a sgiliau arwain, wrth greu cyfleoedd i genedlaethau gwahanol gysylltu â’i gilydd.
CFfI Ystradfellte – Bydd gweithgareddau cymunedol, gan gynnwys brecwast a hyfforddiant cymorth cyntaf, yn rhoi cyfleoedd i wirfoddolwyr ifanc ddatblygu sgiliau ymarferol a chael mynediad at hyfforddiant, wrth gefnogi cyfraniad y clwb i’r gymuned ehangach.
Dywedodd Clair Swales, Prif Weithredwr PAVO: “Canfu ein prosiect ‘Sgyrsiau Cymunedol’ diweddar fod pobl o bob oed ledled Powys yn gwerthfawrogi cyfleoedd i bobl ifanc ac yn poeni am eu dyfodol yn y sir.
“Mae’r mentrau hyn yn enghraifft wych o’r hyn sy’n bosibl pan roddir cyfle i bobl ifanc arwain a gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.
“Maent hefyd yn tynnu sylw at y cyfraniad y gall pobl ifanc ei wneud trwy wirfoddoli – o ddod â chenedlaethau gwahanol at ei gilydd a mynd i’r afael ag unigrwydd, i wella mannau lleol a chreu cyfleoedd newydd i bobl gysylltu.
“Mae’n bwysig bod gan bobl lais mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Mae’r fenter hon yn rhoi’r egwyddor honno ar waith, gan roi cyfle i bobl ifanc nid yn unig lunio prosiectau yn eu cymunedau, ond hefyd gael llais ynglŷn â pha brosiectau sy’n derbyn cefnogaeth.
“Rwy’n gobeithio y bydd yr holl bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn dysgu llawer wrth ymwneud â’r prosiectau hyn, ac yn cael hwyl ac yn mwynhau’r profiad hefyd.”
I gael cymorth datblygu’r Trydydd Sector, cysylltwch â PAVO yn info@pavo.org.uk
