Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth bob dydd? Mae gennym swydd wag gyffrous – dewch i ymuno â ni yn PAVO!
Swyddog Gwybodaeth Iechyd Meddwl (21 awr yr wythnos) £20,660 (£34,434 pro rata) y flwyddyn
Mae’r rôl yn un tymor penodol hyd at 31 Mawrth 2027 (Mae’n bosib y gellir ei hymestyn yn amodol ar gyllid) a gellir ei lleoli yn Swyddfeydd PAVO yn Llandrindod neu’r Drenewydd. Mae cyfrifoldebau rheoli llinell yn gysylltiedig â’r rôl hon.
Rydym yn chwilio am swyddog gwybodaeth sydd â sgiliau cyfathrebu da ac angerdd dros iechyd meddwl i ymuno â’n tîm.
Mae’r rôl hon yn cynnwys cynhyrchu gwybodaeth berthnasol a hyrwyddo gwasanaethau’r trydydd sector trwy ddiweddaru’r wefan, cynhyrchu bwletinau rheolaidd a rheoli ein presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol. Mae hefyd yn darparu cefnogaeth rheoli llinell i’r Swyddog Gwybodaeth Iechyd a Llesiant.
Disgrifiad Swydd
Ffurflen Gais
Peidiwch â chael eich atal rhag gwneud cais os nad oes gennych yr holl sgiliau a phrofiad a nodir yn y disgrifiad swydd, rydym yn cynnig ymsefydlu trylwyr ac amgylchedd dysgu cadarnhaol.
Mae gan PAVO bolisi o weithio hyblyg a rhannu swydd – croesawir ymholiadau gan bobl sydd eisiau gweithio llai o oriau neu batrwm gwaith gwahanol i’r hyn a hysbysebir. Byddem yn ystyried ceisiadau gan bobl a fyddai’n well ganddynt gyfle secondiad pe bai eu cyflogwr presennol yn cytuno.
Gwybodaeth Gefndir PAVO
Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant PAVO
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeiswyr Swydd PAVO
Ffurflen Monitro Amrywiaeth
Dyddiad cau: Hanner dydd, dydd Llun 2il Tachwedd 2026
Cyfweliadau: dydd Gwener 13eg Tachwedd 2026
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau, ynghyd â’r Ffurflen Monitro Amrywiaeth i recruitment@pavo.org.uk erbyn y dyddiad cau os gwelwch yn dda.
