Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth bob dydd? Dewch i ymuno â ni ym PAVO!

Lady on the phone

Llinell ddyletswydd – Swyddog Cymorth Gweinyddol – Tîm Llesiant Cymunedol (Cyfnod penodol hyd at ddiwedd mis Mawrth 2026) 35 awr yr wythnos £26,835 y flwyddyn 

Wedi’i leoli yn Swyddfeydd PAVO yn Llandrindod neu’r Drenewydd

Rydym yn chwilio am rywun sydd â dull ffôn gwych ac empathi at bobl sy’n profi amgylchiadau bywyd anodd i ymuno â’n tîm prysur. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar y llinell ddyletswydd sef y porth i’n gwasanaethau Cyfeillio a Chysylltu Cymunedol yn ogystal â chyflawni tasgau gweinyddol. Os oes gennych sgiliau gweinyddol cryf a phrofiad o amgylchedd gwasanaeth prysur, hoffem glywed gennych.

Peidiwch â chael eich rhwystro rhag gwneud cais os nad oes gennych yr holl sgiliau a phrofiad a nodir yn y disgrifiad swydd, rydym yn cynnig cyfnod sefydlu trylwyr ac amgylchedd dysgu cadarnhaol. Mae angen brwdfrydedd ac agwedd gall-wneud!

Gwybodaeth gefndirol PAVO 

Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant PAVO

Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd PAVO

Polisi Diogelu PAVO

Ffurflen Monitro Amrywiaeth

Disgrifiad Swydd

Ffurflen gais

Mae’r swydd hon yn gofyn am Wiriad DBS Manwl; mae’r swydd wedi’i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Agored i Niwed 2006 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 a bydd yn destun gwiriad o’r rhestr o bobl hynny sydd wedi’u gwahardd rhag gweithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed.

Mae PAVO yn cynnig gweithio hyblyg a hybrid.

Dyddiad cau: Hanner dydd, dydd Llun 8fed Medi 2025

Cyfweliadau: Dydd Iau 11fed  Medi 2025

Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau, ynghyd â’r Ffurflen Monitro Amrywiaeth i recruitment@pavo.org.uk erbyn y dyddiad cau.