Hwb Iechyd Menywod
Mae Cynllun Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru yn nodi gweledigaeth i gau’r bwlch iechyd rhywedd a gwneud gwasanaethau’n fwy cydgysylltiedig, hygyrch ac effeithiol. Rhan allweddol o’r weledigaeth hon yw creu Canolfannau Iechyd Menywod newydd ym mhob ardal bwrdd iechyd erbyn 2026, gan gynnig “siop un stop” o ofal arbenigol a chydlynol i fenywod a merched.
Mae PAVO yn gweithio ar ran Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i ymgysylltu â thrigolion lleol, gan gasglu barn i helpu i ddatblygu Canolfan Iechyd Menywod newydd ar gyfer Powys. Bydd y Ganolfan yn arbenigo mewn tri phrif faes: mislif, atal cenhedlu a’r menopos. Hoffem i’ch barn helpu i siapio Canolfan, yr hyn y dylai ei gynnig mewn perthynas â’r tri maes a sut y caiff ei darparu.
Rydym yn ceisio eich profiadau mewn perthynas â gwasanaethau rydych wedi’i profi a’ch mewnbwn i sut yr hoffech gael mynediad at wasanaethau yn y dyfodol a’r hyn y dylent eu cynnig.
Rydym yn cydnabod bod hwn yn bwnc hynod bersonol a sensitif. Gallwn eich sicrhau y bydd eich ymatebion yn cael eu trin yn gyfrinachol iawn, ac mae croeso i chi hepgor unrhyw gwestiwn nad ydych am ei ateb.
Diolch am eich amser a’ch adborth gonest. Anogwch eich teulu a’ch ffrindiau i gwblhau’r arolwg hwn os gwelwch yn dda.
Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg yw 18fed Rhagfyr
https://www.haveyoursaypowys.
