Rydym wedi gwneud y penderfyniad i gamu i ffwrdd o X – a dyma ychydig am pam.

Ar ôl ystyried yn ofalus, rydym wedi penderfynu camu i ffwrdd o bostio ar X (Twitter gynt).
Mae newidiadau diweddar i’r platfform – gan gynnwys cynnydd mewn cynnwys atgas, ffug a negyddol – yn mynd yn groes i’n gwerthoedd. Rydym hefyd wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn ymgysylltu ystyrlon.
Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i hyrwyddo a chefnogi’r Trydydd Sector ym Mhowys, ond nid ydym bellach yn credu mai X yw’r lle iawn i wneud hynny.
Yn lle hynny, byddwn yn canolbwyntio’n hegni ar sianeli mwy cadarnhaol a mwy diogel lle gallwn gysylltu’n well â’n cymuned.
Diolch i bawb a ddilynodd ac a gefnogodd ni ar X.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar Facebook: i gael newyddion PAVO dilynwch PAVO, am y diweddariadau Iechyd a Llesiant diweddaraf, dilynwch Llesiant PAVO, ac ar gyfer diweddariadau Iechyd Meddwl dilynwch Arbenigwyr Powys trwy Brofiad.