Llywodraeth Cymru – Cyllid ar gyfer gwasanaethau gwybodaeth a chyngor digartrefedd yng Nghymru

Darparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor digartrefedd yng Nghymru

Dyma nodyn i’ch hysbysu fod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid grant, ychydig dros £1.4 miliwn y flwyddyn ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2029 er mwyn cydlynu a darparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor digartrefedd yng Nghymru.

Bydd y broses ymgeisio am gyllid grant yn agor ar 23 Gorffennaf 2025, gyda’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar 15 Hydref 2025 erbyn 5pm.

Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn pan fydd y broses ymgeisio am grant yn agor. Yn dilyn lansio’r grant ar 23 Gorffennaf, bydd cyfnod o 4 wythnos ar gyfer derbyn unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r grant. Dylid anfon unrhyw gwestiynau sydd gennych yn ystod y cyfnod hwnnw, ac nid cyn hynny, at: HousingManagementAndHomelessnessPreventionPolicy@llyw.cymru