Wythnos Elusennau Cymru 2026: Gwna dy ran a newid bywydau
Mae Wythnos Elusennau Cymru, a drefnir gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), yn dychwelyd o 9–13 Chwefror 2026, bellach yn ei chartref blynyddol newydd yn ail wythnos mis Chwefror. Mae’r wythnos wedi’i chysegru i gydnabod a dathlu gwaith anhygoel elusennau, sefydliadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr ledled Cymru.
Ffocws eleni: y sector gwirfoddol a lles
Yn y flwyddyn etholiad Senedd hon, mae’r CGGC yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae’r sector gwirfoddol yn ei chwarae wrth gefnogi lles ledled Cymru. Thema’r ymgyrch yw “Gwna dy ran a newid bywydau”, gan annog pobl i gymryd rhan yn y sector drwy:
- Rhoi
- Gwirfoddoli
- Hyrwyddo gwaith elusennau a grwpiau cymunedol
Cymryd rhan
I ddarganfod sut allwch chi gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru a chefnogi sefydliadau lleol, ewch i: wythnoselusennau.cymru/
