Diweddariad gan Hayley Thomas: Gwell Gyda’n Gilydd ym Mhowys

Ers i ni lansio cam diweddaraf ein hymgysylltiad Gwella Gyda'n Gilydd ar 9 Mehefin, rydym
wedi bod yn clywed gan bobl ledled Powys am ddyfodol gwasanaethau cymunedol iechyd
corfforol a meddyliol i oedolion. Hoffwn eich annog i rannu eich barn os nad ydych wedi cael
y cyfle i wneud eisoes.

Mae hon yn sgwrs hanfodol ynglŷn â sut rydym yn ymateb i'r heriau sy'n wynebu
gwasanaethau iechyd lleol—galw cynyddol, pwysau ar y gweithlu, seilwaith sy'n heneiddio, a
chyfyngiadau ariannol. Mae'r senarios rydyn ni wedi'u rhannu wedi'u cynllunio i sbarduno
syniadau a sgwrs ynghylch sut y gallwn ni gydweithio i lunio gwasanaethau sy'n ddiogel, yn
gynaliadwy, ac yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i'n cymunedau.

Mae eich mewnwelediadau a'ch profiad yn hynod werthfawr wrth ein helpu ni ddeall effaith y
senarios hyn ac wrth lunio'r ffordd orau ymlaen.
Gallwch ddarllen y ddogfen ymgysylltu a rhannu eich barn erbyn 27 Gorffennaf 2025
yn

https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/gwella-gydan-gilydd-haf25

Mae copïau caled ar gael mewn llyfrgelloedd lleol neu gellir gofyn amdanynt drwy
ffonio 01874 442917 a gadael eich enw a'ch cyfeiriad.
Mae digwyddiadau lleol eisoes wedi digwydd yn Aberhonddu, Y Trallwng ac Ystradgynlais
ond mae amser o hyd i ymuno â ni yn Llandrindod ar 10 Gorffennaf ac yn y Drenewydd ar
16 Gorffennaf, yn ogystal ag yn ein digwyddiad ar-lein yfory (9 Gorffennaf) am 7yh.


Diolch am eich cefnogaeth barhaus ac am ein helpu ni lunio dyfodol gwasanaethau iechyd
diogel, o ansawdd uchel i Bowys.
Cofion cynnes,
Hayley Thomas
Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys