Cynhelir Wythnos yr Ymddiriedolwyr rhwng 9 a 13 Tachwedd 2026, ac mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau am ddim ar gyfer y sector gwirfoddol.
Cymerwch olwg ar y digwyddiadau isod ac archebwch eich lle nawr.
Mynediad at gyngor a chymorth cyfreithiol pro bono gyda LawWorks
9 Tachwedd 2026, 10yb – 11yb. Ar-lein
Mae LawWorks yn partneru ag CGGC i gyflwyno sesiwn ar-lein sy’n egluro sut gall LawWorks helpu drwy gysylltu cyfreithwyr gwirfoddol â mudiadau nid-er-elw sydd angen cyngor cyfreithiol am ddim
Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol
9 Tachwedd 2026, 11.30yb-12.30yp. Ar-lein.
Bydd y weminar hon yn rhoi trosolwg manwl o’r prif ddiwygiadau wedi’i chyflwyno gan y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol
Ymdrin â Digwyddiadau Difrifol gyda Hugh James
9 Tachwedd 2026, 1yp – 2yp. Ar-lein
Mae’r sesiwn ymarferol hon yn egluro beth sy’n cael ei ystyried yn ddigwyddiad difrifol, pryd dylid adrodd wrth y Comisiwn Elusennau, camgymeriadau cyffredin i’w hosgoi a’r camau y gall ymddiriedolwyr eu cymryd i ymateb yn hyderus ac yn effeithiol.
Ymchwil ar ymddiriedau cyhoeddus a phrofiad ymddiriedolwyr
9 Tachwedd 2026, 3yp – 4yp. Ar-lein.
Ymunwch â ni am weminar fewnweledol a fydd yn edrych ar waith ymchwil diweddaraf y Comisiwn Elusennau ar ymddiriedau cyhoeddus a phrofiad ymddiriedolwyr
Gweithio gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
10 Tachwedd 2026, 9.30yb – 10.30yb. Ar-lein.
Yn ein cyflwyniad, byddwn yn egluro sut rydyn ni eisiau gweithio’n agosach gyda’r sector i godi ymwybyddiaeth o’n swyddfa, hyrwyddo ein gwasanaethau hygyrchedd a chefnogi atgyfeiriadau cwyno sy’n syrthio o fewn ein hawdurdodaeth.
Gwiriad Iechyd Cynhyrchu Incwm
10 Tachwed 2026, 11yb – 12yp. Ar-lein.
Bydd y sesiwn hon yn cynorthwyo ymddiriedolwyr i ddeall beth ddylai gwiriad iechyd effeithiol ei gynnwys, edrych ar ddulliau ymarferol o wneud un ac yn nodi adnoddau defnyddiol i gryfhau polisïau, gweithdrefnau a strategaethau cynhyrchu incwm ar gyfer gwydnwch hirdymor.
Awgrymiadau diogelu data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
11 Tachwedd 2026, 10yb – 11yb. Ar-lein.
Nod y sesiwn hon yw dadansoddi’r hyn y mae’r ICO yn ei ddisgwyl gan elusennau wrth drin data personol, a chyflwyno awgrymiadau ymarferol y gallwch chi eu defnyddio o un dydd i’r llall.
Adroddiadau a Chyfrifon Elusennau
11 Tachwedd 2026, 10yb – 11yb. Ar-lein.
Gyda Datganiad newydd o’r Arfer a Argymhellir (SORP) a newidiadau diweddar i drothwyon cyfrifo, mae’r Comisiwn Elusennau wedi diweddaru ei ganllawiau ar lunio cyfrifon ac adroddiadau. Yn y sesiwn hon, byddwch chi’n cael gwybod am y canllawiau sydd wedi’u diweddaru gan y Comisiwn i helpu ymddiriedolwyr i ddeall y newidiadau i sut mae elusennau yn adrodd ac yn paratoi eu cyfrifon.
Llywodraethu effeithiol gyda Darwin Gray
11 Tachwedd 2026, 2yp – 3yp. Ar-lein.
Ymunwch â Fflur Jones, Partner Rheoli, am sesiwn a fydd yn tynnu sylw at yr heriau di-ri hyn gan edrych ar sut dylai llywodraethu effeithiol, adrodd tryloyw, sgiliau amrywiol a diwylliant o atebolrwydd gael eu gwneud o fewn elusen
Deall eich Dogfen Lywodraethu
12 Tachwedd 2025, 9.30yb – 12yp. Wneb y wneb.
Bydd y gweithdy hwn yn rhoi’r cyfle i chi adolygu a deall dogfen lywodraethu eich elusen yn well.
Mae Rhywun yn Gamblo Gydag Arian Eich Elusen
12 Tachwedd 2026, 1yb – 2yb. Ar-lein.
Mae’r weminar hon yn edrych ar sut gall deall awydd eich mudiad am risg, dewis y contract cywir a blaenoriaethu cynaliadwyedd ariannol hirdymor helpu i ddiogelu cyllid a chefnogi’r gwasanaethau y mae eich buddiolwyr yn dibynnu arnynt.
Sesiwn ddiweddaru ar ddiogelu!
12 Tachwedd 2026, 2.30yp – 3.30yp. Ar-lein.
Ymunwch â ni am gyflwyniad i ddiogelu wrth i ni ddathlu’r Wythnos Ddiogelu a’r Wythnos Ymddiriedolwyr a’ch diweddaru ar y newidiadau diweddaraf mewn diogelu, eich cyfrifoldebau a sut gallwn ni helpu
I gael rhagor o wybodaeth am wythnos yr ymddiriedolwyr, ewch i wefan Wythnos yr Ymddiredolwyr.
