Mae enwebiadau Gwobrau Elusennau Cymru ar agor!
Enwebwch eich hoff fudiad gwirfoddol, gwirfoddolwr neu unigolyn eithriadol ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru eleni, sydd â’r categori newydd sbon, ‘cyflawniad eithriadol’!
Mae Gwobrau Elusennau Cymru, a drefnir gan CGGC, yn cydnabod ac yn amlygu cyfraniad ffantastig elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr o bob cwr o Gymru. Maen nhw’n dathlu ac yn hyrwyddo’r gwahaniaeth positif y gall y sector gwirfoddol ei wneud i fywydau pobl. Eleni, mae enwebiadau yn cael eu derbyn ar gyfer categori newydd, cyflawniad eithriadol, i gydnabod effaith barhaol ar y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Mae’r enwebiadau ar gyfer y gwobrau ar agor nawr a byddant yn cau ar 30 Mehefin 2026. Bydd y seremoni yn cael ei chynnal ar 15 Hydref 2026 yng ngwesty’r Hilton, Caerdydd, ac rydyn ni eisoes yn disgwyl noson gyffrous arall o ddathlu!
MEDDWL AM GYMRYD RHAN?
Waeth beth yw maint eich hoff fudiad gwirfoddol neu beth mae’n canolbwyntio arno, mae yna gategori i ddathlu ei gyflawniadau. Mae gennym ni hefyd gategorïau i ddathlu gwirfoddolwyr a gwobr cyflawniad eithriadol newydd sbon i unigolion. Enwebwch nawr a rhoi cyfle i’ch mudiad neu unigolyn gael ychydig o gydnabyddiaeth haeddiannol a noson i’w chofio!
- Gwerthfawrogiad – waeth a fydd y sawl y byddwch chi’n ei enwebu yn enillydd neu’n deilyngwr, bydd cael ei enwebu am wobr yn dangos i’r mudiad neu unigolyn bod eu gwaith yn cael eu gwerthfawrogi a’i fod yn gwneud gwahaniaeth enfawr
- Dathliad – cymerwch yr amser i ddathlu llwyddiant tîm (neu wirfoddolwr arbennig) diwyd a bydd cyfle i’r holl deilyngwyr ddod i’n seremoni wobrwyo fawreddog
- Cydnabyddiaeth – gall bod yn deilyngwr yn y gwobrau godi proffil mudiad heb os, o gael sylw yn y cyfryngau i arddangos ansawdd ei waith i gyllidwyr a phenderfynwyr
CATEGORÏAU
Isod mae’r categorïau ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru 2026 – gan gynnwys categori newydd sbon, Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield.
Gallwch wneud un enwebiad ym mhob categori:
- Gwirfoddolwr y flwyddyn (26 a hŷn)
- Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn (25 oed ac iau)
- Codwr arian y flwyddyn
- Hyrwyddwr amrywiaeth
- Defnydd o’r Gymraeg
- Mudiad bach mwyaf dylanwadol
- Iechyd a lles
- Gwobr cyflawniad eithriadol Graham Benfield
- Mudiad y flwyddyn
GWOBR CYFLAWNIAD EITHRIADOL GRAHAM BENFIELD
Mae’r anrhydedd arbennig hon yn cydnabod unigolion sydd wedi cael effaith eithriadol a pharhaol ar y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Roedd Graham Benfield yn llais hynod ddylanwadol dros bobl a chymunedau yng Nghymru, a chafodd effaith ddofn ar y sector gwirfoddol, yn genedlaethol a thu hwnt. Fel Prif Weithredwr CGGC, treuliodd 25 o flynyddoedd yn gweddnewid y dirwedd i fudiadau gwirfoddol, gan hyrwyddo cydweithio, cryfhau strwythurau cymorth a helpu’r sector i dyfu o ran hyder ac effaith.
Mae’r wobr hon yn dathlu’r rheini y mae eu cyfraniad yn mynd uwchlaw un prosiect neu foment. Mae’n cydnabod unigolion y mae eu hymroddiad, brwdfrydedd ac arweinyddiaeth wedi gwneud gwahaniaeth ystyrlon a pharhaol i gymunedau ledled Cymru. Mae’r wobr yn adlewyrchu’r gwerthoedd y gwnaeth Graham eu hymgorffori drwy gydol ei oes: anhunanoldeb, gonestrwydd a chred ddiysgog mewn pŵer pobl i greu newid positif.
Trwy sefydlu’r wobr hon, rydym yn gobeithio creu etifeddiaeth barhaol yn enw Graham, gan amlygu’r rheini sydd, fel ef, wedi ymroi eu hunain i wella bywydau a chryfhau’r sector gwirfoddol am yr hirdymor.
YR AMSERLEN AR GYFER 2026
Mae’r gwobrau ar agor, edrychwch ar amserlen 2026 isod:
- 15 Mai 2026 – Enwebiadau ar agor
- 30 Mehefin 2026 – Dyddiad cau derbyn enwebiadau
- 15 Hydref 2026 – Seremoni wobrwyo – Gwesty’r Hilton, Caerdydd
GWNEUD ENWEBIAD
Am ragor o wybodaeth am Wobrau Elusennau Cymru, gan gynnwys y disgrifiadau o’r categorïau, y rheolau a sut i wneud enwebiad, ewch i wefan Gwobrau Elusennau Cymru.
