Mae ein rhaglen Weave | Gwehyddu 2025 yn FYW!

Mae ein rhaglen Weave | Gwehyddu 2025 yn FYW!

Fel y gwyddoch, mae unig gynhadledd genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau ac iechyd – Weave | Gwehyddu 2025 – nôl unwaith eto rhwng 8 a 9 Medi, a’r tro yma, rydyn ni’n mynd i Wrecsam.

Rydyn ni’n falch iawn o allu rhannu ein rhaglen ddeuddydd gyda chi.

Gallwch chi weld y rhaglen lawn fan hyn

Rydyn ni wedi cael modd i fyw yn rhoi’r rhaglen at ei gilydd. O sgyrsiau hollbwysig am yr heriau sy’n wynebu presgripsiynu creadigol a blaenoriaethau ymchwil y dyfodol i  fît-bocsio gyda’r anhygoel Mr Phormula a gweithdy llesiant ymarferol i ymarferwyr – mae’r gynhadledd yn addo i fod yn ddeuddydd llawn o lawenydd, dysgu, creadigrwydd a chysylltiadau.

Rydyn ni wedi cynllunio rhaglen gyfoethog ac amrywiol yn llawn sesiynau ysbrydoledig, eiliadau arwyddocaol a sgyrsiau pwysig gyda’r nod o fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau y mae’r sector yn eu hwynebu. Mae rhywbeth at ddant pawb.

Peidiwch ag anghofio bod tocynnau undydd a deuddydd ar gael. Rydyn ni hyd yn oed wedi anelu at gychwyn yn hwyrach bob dydd er mwyn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i’r rhai sy’n teithio i fod gyda ni.
Prynwch eich tocynnau fan hyn