Cronfa Gweithredu Hinsawdd – Systemau Bwyd
Rydym am ariannu prosiectau sy’n cryfhau ein system fwyd ac yn lleihau ansicrwydd bwyd i bobl a chymunedau.
Rydym am gefnogi ffyrdd o gynhyrchu digon o fwyd iach a fforddiadwy heb niweidio’r blaned.
Byddwn yn gwneud hyn drwy gefnogi gwaith sy’n:
- gweithio gyda natur i greu systemau bwyd gwydn, cynaliadwy a theg (gelwir hyn yn agroecoleg)
- mynd i’r afael â gwraidd problemau hirdymor, nid dim ond y symptomau (gelwir hyn yn newid systemau)
Rhaid i chi fodloni un neu fwy o’n hamcanion
- Rhaid i’ch prosiect weithio tuag at newid systemau yn y ffordd y mae:
- mae mudiadau cymunedol yn tyfu ac yn cynhyrchu bwyd – gan ddefnyddio dulliau agroecolegol
- mae bwyd yn cael ei ddosbarthu – gan anelu at fynediad cyfartal at fwyd iach a fforddiadwy i bawb
- cynnig opsiynau bwyd gwahanol i bobl a chymunedau – yn enwedig y rhai sy’n profi tlodi, anfantais neu wahaniaethu
AM MWY O WYBODAETH, A MANYLION SUT I WNEUD CAIS CLICIWCH YMA
