PTHB Ymgyrch brechu rhag y ffliw

Mae bron i filiwn o bobl yng Nghymru yn cael eu brechu bob blwyddyn i amddiffyn eu hunain a’u hanwyliaid rhag y ffliw.

Mae’r brechlyn yn ffordd ddiogel ac effeithiol o’ch amddiffyn rhag salwch difrifol.

Bydd ymgyrch brechu ffliw 2025-26 yn rhedeg ym Mhowys o 1af Hydref 2025 tan 31ain Mawrth 2026.

Bydd meddygfa’r teulu yn cysylltu â phob person cymwys ym Mhowys i gynnig y brechlyn ffliw. Gallwch hefyd gael y brechlyn ffliw yn eich fferyllfa gymunedol leol.