Amlygu cynnydd yng Nghynhadledd Flynyddol y Tasglu Tlodi Plant

Mae amrywiaeth eang o gamau gweithredu ymarferol yn gwneud gwahaniaeth i blant Powys sy’n byw mewn tlodi, ond mae angen mwy o waith.

Mae hynny oherwydd bod 3,713 o blant yn y sir yn dal i fyw mewn aelwydydd incwm isel, gan gynnwys 2,244 sy’n is na’r ffin tlodi.

Er gwaethaf hyn, clywodd Cynhadledd Flynyddol Tasglu Plant Powys a gynhaliwyd fis diwethaf, yn y Drenewydd, am gynnydd sylweddol. Roedd y mentrau a amlygwyd yn cynnwys:

  • Ehangu Canolfannau Integredig i Deuluoedd, gyda darpariaeth bellach wedi’i gynllunio, gan gynnwys yn Llandrindod yn 2027.
  • Twf y rhaglen haf Bwyd a Hwyl, a fydd yn cyrraedd 10 ysgol yn 2026.
  • Ysgolion sy’n canolbwyntio ar y gymuned sy’n darparu cymorth mewn 52 lleoliad, ochr yn ochr â miloedd o ymyriadau wedi’u targedu i deuluoedd.
  • Yr offeryn Olrhain Teuluoedd Incwm Isel (LIFT) sy’n galluogi targedu cymorth ariannol yn fwy rhagweithiol i aelwydydd sydd eu hangen fwyaf.
  • Cynlluniau cymorth ariannol uniongyrchol a oedd yn rhagori ar y disgwyliadau, gan gefnogi 133 o deuluoedd yn erbyn targed cychwynnol o 100.

Rhoddodd y gynhadledd bwyslais cryf hefyd ar wrando ar brofiad byw. Cyfrannodd dros 400 o bobl ifanc at yr arolwg ‘Siarad Gwirionedd i Bowys’, gan nodi rhwystrau allweddol fel costau, diffyg trafnidiaeth a chyfleoedd cyfyngedig yn eu cymunedau.

Roedd gweithdai a sesiynau panel yn archwilio atebion ymarferol, gan gynnwys gwella mynediad at wasanaethau, cryfhau cyflenwi aml-asiantaeth, a datblygu dulliau cymunedol wedi’u cefnogi gan ddata a mewnwelediad.

Wrth edrych ymlaen, cytunodd Cyngor Sir Powys a’i bartneriaid o’r sector gwirfoddol ac elusennol, sefydliadau cenedlaethol a phobl ifanc ar gyfres o flaenoriaethau, gan gynnwys ymestyn prydau ysgol am ddim i ddisgyblion uwchradd cymwys, ymgorffori llais ieuenctid yn y broses o wneud penderfyniadau, a gweithredu camau gweithredu a nodwyd drwy’r rhaglen ‘Siarad Gwirionedd i Bowys’.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach, y Cynghorydd Matthew Dorrance: “Rhaid i fynd i’r afael â thlodi plant aros wrth wraidd popeth a wnawn ym Mhowys. Mae’r gynhadledd hon wedi dangos cryfder ein partneriaethau a’r cynnydd gwirioneddol rydyn ni’n ei wneud gyda’n gilydd – o gefnogi teuluoedd trwy ein hysgolion a’n cymunedau, i wrando’n uniongyrchol ar bobl ifanc am eu profiadau.

“Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod bod mwy i’w wneud. Drwy barhau i weithio ar y cyd, gan ddefnyddio data a phrofiad byw i’n tywys, gallwn adeiladu Powys decach lle mae pob plentyn yn cael y cyfle i ffynnu.”

Bu tri hwylusydd ieuenctid, a gafodd eu recriwtio a’u cefnogi gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), yn annerch y gynhadledd, gan rannu barn a phrofiadau pobl ifanc ym Mhowys.

Dywedodd Clair Swales, Prif Swyddog Gweithredol PAVO: “Diolch i’r hwyluswyr ieuenctid a roddodd o’u hamser i fynychu’r gynhadledd a sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed.

“Rydym yn falch o’u cefnogi ac i weld y gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud ar draws y sir, yn ogystal â’r ymrwymiad maen nhw wedi’i ddangos i ddyfodol Powys. Bydd eu rôl yn ganolog i ymgorffori llais ieuenctid wrth wneud penderfyniadau.

“Mae mynd i’r afael â thlodi plant yn fater i bawb yn y sir, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl i’n pobl ifanc.”

Bydd y Tasglu Tlodi Plant nawr yn bwrw ymlaen â chanlyniadau’r gynhadledd o ran  cynllunio gweithredu, gan sicrhau ffocws parhaus ar gyflawni gwelliannau ystyrlon i blant, pobl ifanc a theuluoedd ledled Powys.

Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol y tasglu ‘Symud Ymlaen’ yn Yr Hafren yn y Drenewydd ddydd Iau 18 Mehefin. Ymhlith y siaradwyr roedd Hyrwyddwr Gwrth-Dlodi Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Joy Jones, sy’n cynrychioli ward Dwyrain y Drenewydd.

PRIF LLUN: Hwylusydd Ieuenctid Alexi o Ysgol Calon Cymru (Llandrindod), yn siarad yn Symud Ymlaen: Cynhadledd Flynyddol y Tasglu Tlodi Plant fel rhan o’r prosiect ‘Siarad Gwirionedd i Bowys’

LLUN YNG NGHORFF YR ERTHYGL: Hwylusydd Ieuenctid Holly o Ysgol Calon Cymru (Llandrindod), yn siarad yn Symud Ymlaen: Cynhadledd Flynyddol y Tasglu Tlodi Plant fel rhan o’r prosiect ‘Siarad Gwirionedd i Bowys’