RHEOLWR RHAGLEN PAVO – MUDIADAU

Yn Barod i Arwain, Ysbrydoli a Gwneud Gwahaniaeth ym Mhowys?

Rydym yn esblygu—a dyma’ch cyfle i fod yn rhan ohono.

Yn dilyn adolygiad cyffrous o’n strwythur a’n cyfeiriad yn y dyfodol, rydym yn creu rôl newydd sbon o fewn ein tîm rheoli. Mae hyn yn fwy na dim ond swydd—mae’n gyfle i lunio a chryfhau’r seilwaith sy’n cefnogi mudiadau gwirfoddol a chymunedol ledled Powys.

Ai chi allai fod yn Rheolwr Rhaglen PAVO – Mudiadau?

Yn y rôl hon, byddwch yn arwain ar ein gwasanaethau cymorth seilwaith, gan sicrhau bod popeth a wnawn yn cyd-fynd â’n gweledigaeth strategol, a thrwy feithrin diwylliant o gydweithio, arloesi ac effaith. Byddwch yn gweithio ar draws timau a chyda phartneriaid allanol i helpu’r trydydd sector nid yn unig i weithredu—ond i ffynnu.

Rydym yn chwilio am arweinydd hyderus ac ysgogol sydd â:

  • Chefndir a phrofiad ym maes arweinyddiaeth
  • Dealltwriaeth gadarn o lywodraethu’r sector gwirfoddol
  • Gwybodaeth am dirweddau cyllido
  • Y gallu i ysbrydoli a chefnogi staff a gwirfoddolwyr

Byddwch yn gydweithredwr a chyfathrebwr naturiol—rhywun a all ddod â phobl ynghyd, hyrwyddo syniadau, a chreu amgylchedd lle gall unigolion, mudiadau a chymunedau dyfu.

Os oes gennych y cymhelliant, y weledigaeth, a’r angerdd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, rydym am glywed gennych.

Camwch i rôl lle bydd eich arweinyddiaeth yn llunio dyfodol y trydydd sector ym Mhowys. Gwnewch gais heddiw.

Cyflog: £38,220 y flwyddyn (ynghyd â chyfraniad pensiwn cyflogwr o 6%)

Lleoliad: Swyddfeydd PAVO yn Llandrindod neu’r Drenewydd, Powys (gweithio hyblyg/hybrid ar gael yn dilyn y cyfnod sefydlu)

Am sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Janet Walker (Pennaeth Cynorthwyol Gweithrediadau) ar 01597 822191 neu recruitment@pavo.org.uk.

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau a Ffurflen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth:  12pm 18 Mai 2026

Cyfweliadau:  26 Mai 2026

Ffurflen Gais

Ffurflen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth PAVO

1 Disgrifiad Swydd

2. Cefndir

3. Hysbysiad Preifatrwydd – PAVO Ymgeiswyr am Swyddi 

4. Polisi Cyraddoldeb