Asesiad Lles Powys

Dweud eich dweud am lesiant ym Mhowys

Beth sydd fwyaf pwysig i chi, eich teulu a’ch cymuned?

Rydyn ni eisiau clywed beth sy’n effeithio ar eich lles… o iechyd a thai i swyddi, yr amgylchedd a theimlo’n gysylltiedig yn lleol.

Cymerwch ran yn ein harolwg byr a helpwch i lunio blaenoriaethau Powys yn y dyfodol.

Cwblhewch yr arolwg ar-lein:

Cymraeg: Asesiad Lles Powys

Gwell gennych rannu eich barn ar bapur? Dim problem, gofynnwch i staff y llyfrgell am gopi o’r arolwg a’i roi yn ôl iddynt pan fyddwch wedi ei gwblhau.

Y dyddiad cau yw: 30 Medi 2026