Cronfa Llawr Gwlad Ceiniogau Powys

Mae grantiau prosiectau bach o hyd at £1,000 ar gael i grwpiau lleol. Caiff y rhain eu hariannu drwy gyfraniadau hael gan weithwyr PAVO a Chyngor Sir Powys, yn ogystal â ffynonellau cyllido bach eraill.

Pwy sy’n gallu gwneud cais

  • Grwpiau cymwys: Grwpiau cymunedol bach dielw, mudiadau gwirfoddol, ac elusennau sydd wedi’u lleoli ym Mhowys.
  • Terfyn trosiant: Uchafswm trosiant blynyddol o lai nag £20,000.
  • Gofynion: Rhaid i bob prosiect arfaethedig fod o fudd uniongyrchol i drigolion Powys.

Beth y gellir ei ariannu

Mae’r grantiau’n cefnogi ystod eang o gostau prosiect, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Offer a deunyddiau
  • Llogi lleoliadau a chostau rhedeg gweithgareddau
  • Treuliau gwirfoddolwyr
  • Digwyddiadau bach a gweithdai
  • Hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr (fel cymorth cyntaf neu ddiogelu)

Sylwer: Ni ellir darparu cyllid ôl-weithredol, ac ni ellir ei ddefnyddio i dalu am gyfrifoldebau statudol.

Dyddiadau Allweddol

  • Bydd y gronfa’n cau i geisiadau ar 9 Rhagfyr am 10:00yp
  • Dyddiad dechrau prosiectau: 1 Mawrth 2027
  • Dyddiad cau ar gyfer gwario: Rhaid gwario’r cyllid i gyd erbyn 30 Medi 2027

Blaenoriaethau Prosiect

Rhaid i bob prosiect alinio ag o leiaf un o brif flaenoriaethau’r gronfa.

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Lles corfforol, mynd i’r afael ag unigrwydd, cefnogaeth i bobl â dementia
  • Plant a Phobl Ifanc: Clybiau ieuenctid, chwarae anffurfiol, gweithgareddau sgiliau
  • Iechyd Meddwl a Lles: Cefnogaeth gan gyfoedion, sesiynau galw heibio, mentrau sy’n ymwneud â natur
  • Cludiant Cymunedol: Gyrwyr gwirfoddol, costau mini-bysiau, atebion ar gyfer cludiant lleol
  • Datblygu ac Adfywio Cymunedol: Mentrau lleol, mannau cymunedol
  • Diogelwch Bwyd a Digartrefedd: Banciau bwyd, pantris, prydau poeth, cefnogaeth i bobl ddigartref

Ydych chi’n barod i wneud cais?

Gwnewch gais am Gronfa Llawr Gwlad Ceiniogau Powys

CYM Word version Ffurflen Gais Cronfa ‘Ceiniogau Powys’ ar gyfer y Lefel Leol 27

Am fwy o wybodaeth, neu i drafod cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio grants@pavo.org.uk neu ffonio 01597 822191