Llyfrgelloedd Powys yn helpu trigolion i gadw’n iach dros y gaeaf

Gall trigolion Powys nawr fenthyg adnoddau lles a ddatblygwyd yn arbennig o’u llyfrgell leol fel rhan o raglen newydd sy’n cefnogi pobl drwy fisoedd tywyllach y gaeaf.
Mae pum blwch benthyg Cadw’n Iach Dros y Gaeaf ar gael trwy lyfrgelloedd Powys. Maent wedi’u lleoli yn:
  • Y Lanfa, Y Trallwng
  • Llyfrgell y Drenewydd
  • Llyfrgell Llandrindod
  • y Gaer, Aberhonddu
  • Llyfrgell Ystradgynlais
Gall trigolion hefyd eu harchebu trwy wasanaeth llyfrgell ar-lein y cyngor a’u danfon i unrhyw lyfrgell ym Mhowys. Gellir benthyg pob bocs am bythefnos.
Wedi’u datblygu gan ymchwilwyr o Brifysgolion Glasgow a Chaeredin, crëwyd y blychau mewn ymgynghoriad â phobl sy’n profi symptomau Anhwylder Affeithiol Tymhorol, a elwir yn aml yn SAD. Mae’r prosiect yn dilyn treialon llwyddiannus mewn llyfrgelloedd yn yr Alban.
Mae pob blwch yn cynnwys lamp golau therapiwtig a chanllaw sy’n cynnwys syniadau ar gyfer gweithgareddau syml dan do ac awyr agored a all helpu pobl i sefydlu trefn gaeaf iach. Bydd benthycwyr hefyd yn gallu cael mynediad at gwrs ar-lein am ddim sy’n cynnig rhagor o gymorth a gwybodaeth.
Dywedodd gwirfoddolwr llyfrgelloedd Powys, Sammi Orme, sydd wedi treialu un o’r blychau: “Byddwn i’n bendant yn defnyddio hwn eto. Rydw i wedi canfod bod y golau wedi bod yn fuddiol iawn. Rydw i wedi’i alw’n ‘lamp hapus’, yn hytrach na’r ‘SAD lamp’. Dros gyfnod hirach o amser, gall y blychau roi rhai syniadau da i chi roi hwb i’ch hapusrwydd yn ystod y tywyllwch.
“Rwy’n warchodwr plant ac rwyf y tu allan drwy’r amser, ac oherwydd bod yr oriau o olau yn llawer llai yr adeg hon o’r flwyddyn, rwy’n teimlo newid mawr yn fy hwyliau, oherwydd dydw i ddim wedi cael y golau hwnnw ar fy nghroen drwy gydol y dydd. Felly, rwy’n teimlo fy mod wedi elwa o ddefnyddio un o’r blychau dros yr wythnos ddiwethaf.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Raiff Devlin, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Gwsmeriaid, Gwasanaethau Digidol a Chymunedol: “Gall y dyddiau byrrach a misoedd tywyllach y gaeaf fod yn anodd i lawer o bobl, felly rwy’n falch y bydd ein llyfrgelloedd yn gallu cynnig yr adnodd ymarferol a hygyrch hwn.
“Er y bydd y pum blwch wedi’u lleoli mewn llyfrgelloedd ledled Powys, bydd pobl yn gallu archebu un i’w gasglu o unrhyw un o’n cyfleusterau llyfrgell. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn sir wledig fawr, lle mae’n rhaid gwneud gwasanaethau mor hygyrch â phosibl.”
Gaeaf trwy lygaid pobl â phrofiad byw
Bydd arddangosfa ffotograffig yn cyd-fynd â’r rhaglen Cadw’n Iach Dros y Gaeaf yn Llyfrgell Rhaeadr Gwy o heddiw (dydd Llun 26 Hydref) tan ddydd Mercher 6 Ionawr 2027.
Tynnwyd y ffotograffau gan bobl a oedd yn rhan o astudiaeth ymchwil y brifysgol ac maent yn adlewyrchu eu profiadau a’u canfyddiadau o’r tymhorau tywyllach. Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys dyfyniadau gan gyfranogwyr.
Disgwylir i’r arddangosfa symud i lyfrgell arall ym Mhowys o ddydd Llun 11 Ionawr 2027, pan fydd llyfrgelloedd Powys hefyd yn lansio her ffotograffiaeth gaeaf cyn Dydd Llun Glas ar 18 Ionawr.
Her Darllen sy’n Hybu Hwyliau i Oedolion
Mae llyfrgelloedd Powys hefyd wedi lansio Her Darllen sy’n Hybu Hwyliau i Oedolion heddiw (dydd Llun 26 Hydref), ar ôl diwedd Amser Haf Prydain.
Yn rhedeg tan ddydd Llun 29 Mawrth 2027, tua’r adeg y mae’r clociau’n symud ymlaen, bydd yr her yn gwahodd oedolion i ddarllen pob un o’r 10 llyfr yng Nghasgliad Hybu Hwyliau yr Asiantaeth Ddarllen ar gyfer 2026.
Mae’r casgliad wedi’i ddewis ar gyfer oedolion 18 oed a throsodd gan banel o oedolion ifanc 18–25 oed. Argymhellodd pobl ifanc o bob cwr o’r wlad lyfrau a oedd wedi rhoi hwb i’w hwyliau, cyn i oedolion ifanc, llyfrgellwyr a gwerthwyr llyfrau ddarllen ac adolygu’r teitlau i greu’r casgliad terfynol.
Mae’r rhestr yn cynnwys llyfrau ffuglen a ffeithiol a ddewiswyd oherwydd bod darllenwyr wedi canfod bod y llyfrau yn neud nhw deimlo’n dda, yn codi calon neu’n ystyrlon. Bydd cyfranogwyr yn cael eu herio i ddarllen y casgliad cyflawn yn ystod pum mis tywyllach y flwyddyn.
Datblygwyd y rhaglen Cadw’n Iach Dros y Gaeaf gyda chyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Mae’r prosiect gwreiddiol wedi’i arwain gan yr Athro Hester Parr o Brifysgol Glasgow ac wedi’i gyd-arwain gan yr Athro Hayden Lorimer o Brifysgol Caeredin.
I ddod o hyd i ragor o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau Powys, ewch i dudalen Beth sy’n Digwydd StoriPowys: https://storipowys.org.uk/whats-on/?lang=cy
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen ehangach ar gael ar dudalen we Cadw’n Iach Dros y Gaeaf Prifysgol Glasgow: https://www.gla.ac.uk/research/az/livingwithsad/winteringwell/
CAPSIWN LLUN: Sammi Orme yn profi’r lamp golau therapiwtig, o un o flychau benthyg Cadw’n Iach Dros y Gaeaf, yn Llyfrgell Llanidloes.