Gwirfoddoli PAVO ym Mhowys – Galw am Bartneriaid Cyflenwi Gwirfoddoli

Mae PAVO yn chwilio am Bartneriaid Cyflenwi Gwirfoddoli i helpu i ddarparu gwasanaethau gwirfoddoli lleol ledled Powys.

Nod y cyllid hwn yw cefnogi a thyfu gwirfoddoli o fewn cymunedau lleol trwy gynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd a helpu mwy o bobl i gymryd rhan.

Bydd Partneriaid Cyflenwi Gwirfoddoli llwyddiannus yn:

  • Hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli trwy’r cyfryngau cymdeithasol, rhwydweithiau lleol, a straeon gwirfoddoli cadarnhaol.
  • Mynd i’r afael ag anghenion gwirfoddoli lleol trwy wneud cyfleoedd yn haws i’w cyrchu, cefnogi unigolion i rolau addas, a helpu sefydliadau lleol i gysylltu â gwirfoddolwyr.
  • Helpu i sicrhau bod gwirfoddolwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi, a’u bod yn hyderus i gymryd rhan.

Nod y cyllid hwn yw mynd i’r afael ag anghenion gwirfoddoli lleol trwy:

  • Hyrwyddo gwirfoddoli yn lleol
  • Recriwtio gwirfoddolwyr a’u cefnogi i rolau
  • Cysylltu pobl â grwpiau gwirfoddol eraill
  • Hyrwyddo digwyddiadau gwirfoddoli PAVO
  • Galluogi cofrestru gwirfoddolwyr ar wefan Gwirfoddoli Cymru.

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Bartneriaid Cyflenwi Gwirfoddoli yn yr ardaloedd canlynol:

  • Llanfair-ym-muallt a Llanwrtyd
  • Y Gelli Gandryll a Thalgarth
  • Llandrindod
  • Llanandras
  • Y Trallwng, Llanfyllin a Llanfair Caereinion

Dysgwch fwy drwy ymuno ag un o’n sesiynau gwybodaeth anffurfiol ar-lein:

12 Mawrth am 2:00yp

meet.google.com/xnz-zxji-yvo

16 Mawrth am 10:00yb

meet.google.com/vpb-yinb-fuy

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os na allwch fynychu un o’r sesiynau, cysylltwch â:

melissa.townsend@pavo.org.uk

Dyddiad cau: 31 Mawrth 2026 am 5yp