Gwasanaethau iechyd awyr agored yn rhoi hwb i les yn Nyffryn Dyfi

Mae gweithgareddau awyr agored wythnosol am ddim i bobl o 11 i 100+ yn gwella iechyd a
lles ar draws Dyffryn Dyfi drwy wasanaeth iechyd awyr agored newydd, Awyr Iach.
Mae ymchwil yn dangos bod treulio amser yng nghanol byd natur yn lleihau straen ac yn
gwella lles, gyda dim ond dwy awr yr wythnos yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Canfu
arolwg o 69 o gyfranogwyr yn neufis cyntaf y gwasanaeth bod 52% wedi cynyddu eu lefelau
ymarfer corff, bod 76% yn teimlo eu bod ganddynt gwell cysylltiad gyda’u cymuned a byd
natur, a bod 88% wedi ennill sgiliau neu wybodaeth newydd. Roedd eu llesiant meddyliol
hefyd wedi gwella.
Meddai cyfranogwyr yn y gwasanaeth –
“Rwy’n fwy ymwybodol o’r angen i gerdded, cadw colestrol yn isel, a’r risg o ddiabetes. Bu
hefyd yn braf cael cyfarfod pobl newydd, a mynd ar droeon cerdded newydd yn ein hardal
leol”
“Creodd y darparwyr cwrs le diogel a oedd yn wych i’w fynychu bob wythnos. Mae’r profiad
wedi helpu i dawelu cyfnodau o orbryder a dod ag ychydig o wythnosau mwy clir a
heddychlon. Teimlo’n fwy angerddol a phositif ynghylch bywyd”
Dywedodd Dr Sara Bradbury Willis, Meddyg Teulu Iechyd Bro Ddyfi –
“Mae’n rhywbeth rydym wedi canfod ei fod yn bwysig i’n cleifion yn y gorffennol a gobeithio
yn y dyfodol hefyd nawr. Rydym yn teimlo’n wirioneddol bwysig bod hynny’n rhywbeth y
gallwn gyfeirio pobl sy’n mynd drwy amser caled, neu sydd angen mwy o gyswllt
cymdeithasol ato. Mae wedi bod yn wych cael bod yn rhan ohono”
Cafodd Awyr Iach ei ddatblygu mewn ymateb i angen lleol gafodd ei adnabod gan
breswylwyr a darparwyr gofal iechyd, gan gefnogi gofal clinigol a mynd i’r afael â heriau lleol
megis gorbryder, iselder, problemau symudedd a phoen yn y cymalau.
Mae gweithgareddau sy’n cael eu harwain yn broffesiynol yn cynnwys cerdded, symud,
sgiliau coedwig, fforio, celf a chrefft, a therapi anifeiliaid, gyda sesiwn flasu galw heibio misol.
Gall cyfranogwyr hunangyfeirio drwy’r Swyddog Ymgysylltu Elin Crowley neu gael eu cyfeirio
gan Feddyg Teulu neu ddarparwr gofal iechyd arall. Mae’r holl weithgareddau yn hygyrch
drwy drafnidiaeth gyhoeddus neu drafnidiaeth wedi’i chefnogi o Fachynlleth.
Mae’r gwasanaeth yn cael ei arwain mewn partneriaeth â Biosffer Dyfi a Bwrdd Dysgu Iechyd
Powys, wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Ffyniant Gyffredin
Powys. Cysylltwch ag Elin

elincrowley@smallwoods.org.uk

07481080571.