Mae sefydliadau cymunedol a gwirfoddol Gogledd Powys yn rhannu eu barn am yr Hwb Iechyd a Lles arfaethedig yn y Drenewydd
Ar 28 Gorffennaf, cynhaliodd ein partneriaid ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys ddigwyddiad galw heibio i sefydliadau cymunedol a gwirfoddol Gogledd Powys yn Hafan yr Afon. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i’r rhai a oedd yn bresennol gael gwybod mwy am yr Hwb Iechyd a Lles arfaethedig yn y Drenewydd.
Cafodd sefydliadau gyfle i weld y dyluniadau a’r cynlluniau diweddaraf ar gyfer y gwasanaethau a fydd yn symud i’r Hwb, rhannu eu syniadau, trafod rôl y sector yn y dyfodol o fewn yr Hwb, a chwrdd â thîm Rhaglen Lles Gogledd Powys. Roedd modd hefyd cymryd rhan mewn taith ddewisol o amgylch y safle.
I’r sefydliadau hynny nad oedd yn gallu bod yn bresennol ar y diwrnod, rydym wedi crynhoi rhywfaint o’r adborth a glywsom.
Gwahoddwyd y rhai a oedd yn bresennol i ystyried beth ddylai pobl ei brofi pan fyddant yn dod i mewn i’r Hwb Iechyd a Lles arfaethedig am y tro cyntaf.
Canolbwyntiodd yr ymatebion ar y themâu canlynol:
- Rhoi pobl yn gyntaf
Roedd gobaith cryf y byddai’r Hwb yn rhoi pobl wrth wraidd ei ddyluniad a’i ddarpariaeth. Mynegodd y cyfranogwyr yn gyson eu cefnogaeth i bresenoldeb croesawgar wrth y brif fynedfa, gyda gwasanaethau digidol yn ategu, yn hytrach na disodli, cymorth wyneb yn wyneb.
Roedd hefyd ddyhead cyffredin y byddai’r Hwb yn lle diogel, croesawgar ac yn canolbwyntio ar y gymuned, gyda phrofiadau cadarnhaol yn cael eu llywio nid yn unig gan yr amgylchedd ffisegol ond hefyd yn y ffordd y caiff pobl eu croesawu, eu cefnogi a’u helpu i ddod o hyd i’w ffordd o amgylch yr adeilad.
- Creu Hwb cynhwysol sy’n cael ei arwain gan y gymuned
Rhannodd y cyfranogwyr weledigaeth glir y dylai’r Hwb ddod yn ased gwerthfawr i’r gymuned yn ogystal â bod yn gyfleuster gofal iechyd. Roedd cefnogaeth gref i gynnwys sefydliadau’r Trydydd Sector, cymunedau lleol a phobl â phrofiad bywyd drwy gydol y broses ddylunio ac wrth weithredu’r Hwb yn y dyfodol.
Roedd y rhai a oedd yn bresennol hefyd yn gobeithio y byddai’r Hwb yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb, gan gynnwys pobl anabl, pobl ifanc, cymunedau LGBTQ+, pobl niwrowahanol, a’r rhai a allai wynebu rhwystrau wrth ddefnyddio gwasanaethau digidol.
- Ehangu cymorth y tu hwnt i’r adeilad
Roedd cydnabyddiaeth fod gan yr Hwb gyfle i gyrraedd pobl mewn amrywiaeth o ffyrdd. Er bod creu gofod ffisegol hygyrch yn cael ei ystyried yn bwysig, roedd y cyfranogwyr hefyd yn gobeithio y byddai gwasanaethau allgymorth yn parhau i gefnogi’r rhai na allant deithio, gan sicrhau bod gwasanaethau ar gael i gymunedau lle bynnag y bo’u hangen.
Bydd mwyafrif sefydliadau’r Trydydd Sector yn parhau i weithredu o’u lleoliadau presennol yn y Drenewydd, gyda’r Hwb yn darparu gwybodaeth ac yn cyfeirio pobl at eu gwasanaethau.
- Darparu eglurder a meithrin dealltwriaeth
Croesawodd y cyfranogwyr y cyfle i ddysgu mwy am yr Hwb a mynegwyd awydd am wybodaeth glir a chyson am ei bwrpas, y gwasanaethau y bydd yn eu darparu a’r ffordd y bydd yn gweithredu. Roedd y cyfranogwyr yn aml yn cwestiynu elfennau lle nad oedd y rhesymeg yn glir, yn enwedig y siop fyrbrydau.
Roedd disgwyliad ehangach y dylai pob agwedd o’r Hwb fod â phwrpas clir wedi’i gyfathrebu’n dda ac y dylai ddangos budd amlwg i’r gymuned. Nodwyd bod defnyddio iaith glir a chyfathrebu agored yn bwysig er mwyn meithrin dealltwriaeth a hyder.
- Cefnogi llwyddiant hirdymor
Roedd gobaith cyffredin y byddai’r Hwb yn cael ei gefnogi gan fuddsoddiad cynaliadwy er mwyn sicrhau manteision parhaol. Roedd y cyfranogwyr yn cydnabod rôl bwysig gwirfoddolwyr, sefydliadau cymunedol a gwasanaethau parhaus, ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod ganddynt yr adnoddau priodol i gefnogi llwyddiant hirdymor yr Hwb.
- Meithrin hyder drwy ymgysylltu
Wrth wraidd llawer o’r adborth roedd awydd am sicrwydd y byddai’r Hwb yn datblygu mewn ffordd sy’n diwallu anghenion a dyheadau lleol. Roedd brwdfrydedd dros barhau i gynnwys y gymuned, cyfathrebu’n dryloyw, a darparu tystiolaeth glir fod adborth lleol yn llywio penderfyniadau dylunio. Roedd y cyfranogwyr o’r farn y byddai’r elfennau hyn yn helpu i feithrin hyder yn yr Hwb ac yn creu adnodd croesawgar y gall y gymuned ymddiried ynddo.
Roedd adborth ychwanegol hefyd yn tynnu sylw at gwestiynau ynghylch:
- Capasiti a seilwaith: parcio, traffig, trafnidiaeth, capasiti gofal iechyd ac argaeledd ystafelloedd.
- Hyder ac ymgysylltiad y gymuned: pryderon ynghylch adleoli’r llyfrgell i’r Hwb newydd, syrffed ar ymgyngoriadau, mynediad i’r gymuned ac archaeoleg/tir cymunedol.
- Fforddiadwyedd a hygyrchedd: taliadau parcio, costau llogi ystafelloedd, trafnidiaeth a pharcio hygyrch.
- Cyfleusterau aml-ddefnydd sy’n addas ar gyfer y dyfodol: gwasanaethau gofal iechyd, offer digidol a mannau cymunedol hyblyg.
Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth i’r digwyddiad ac a rannodd eu barn. Mae’r adborth wedi’i rannu â thîm Rhaglen Lles Gogledd Powys, sy’n paratoi ymateb.
Os hoffech ychwanegu eich sylwadau neu gael rhagor o wybodaeth am yr Hwb Iechyd a Lles arfaethedig, ewch i wefan Rhaglen Lles Gogledd Powys: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/hub-page/lles-gogledd-powys
