Achosion Da’r Loteri Genedlaethol: Dywedwch eich dweud
Mae Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) Llywodraeth y DU yn gofyn barn pobl a sefydliadau ledled y DU ar sut mae cyllid o gronfa Achosion Da’r Loteri Genedlaethol yn cael ei wario.
Mae Llywodraeth y DU yn awyddus i glywed gan amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau er mwyn helpu i lywio dyfodol cyllid Achosion Da’r Loteri Genedlaethol.
Mae’r Loteri Genedlaethol wedi chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi cymunedau a’r sector gwirfoddol ers dros dri degawd. Rydym yn annog sefydliadau ac unigolion i rannu eu barn a’u profiadau drwy ymateb i’r ymgynghoriad, gan helpu i sicrhau bod lleisiau Powys yn cael eu clywed.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 12 sef hanner dydd ar 23 Medi.
Cymerwch ran yn yr arolwg: Achosion Da’r Loteri Genedlaethol: Ariannwch yr Hyn Sy’n Bwysig i Chi
Mwy o wybodaeth
Ymatebion yn Gymraeg
Mae croeso i chi ymateb i’r alwad am dystiolaeth yn Gymraeg. Os hoffech ymateb yn Gymraeg, gallwch gyflwyno eich tystiolaeth drwy e-bost neu drwy’r post.
- Drwy e-bost: Rhowch y teitl ‘National Lottery Good Causes – Fund What Matters To You’ i’ch e-bost a’i anfon at: lottery-good-causes@dcms.gov.uk
- Drwy’r post: Nodwch destun eich llythyr fel ‘National Lottery Good Causes – Fund What Matters To You’. Os byddwch yn dewis anfon ymateb ysgrifenedig ar bapur, dylid ei anfon at:
National Lottery Good Causes Team
The Department for Culture Media and Sport
100 Parliament Street
London SW1A 2BQ
Bydd pob ymateb, waeth beth fo’r iaith neu’r fformat, yn cael ei drin yn gyfartal ac yn cael yr un ystyriaeth â’r rhai a gyflwynir drwy’r arolwg ar-lein.
