Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru yn dod yn Ail mewn Gwobrau Cenedlaethol

Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru wedi cael ei chydnabod yng Ngwobrau Rheilffordd Gymunedol 2026, gan ddod yn ail yn y categori pwysig Twristiaeth a Hamdden am ei phrosiect arloesol Gwneud a Gwerthu, menter sy’n arddangos ac yn cysylltu gwneuthurwyr a gwerthwyr annibynnol ar hyd y lein brydferth.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol mewn partneriaeth ag East Midlands Railway, a’i gynnal yn Derby, ddydd Iau 19 Mawrth. Roedd 610 o westeion yn bresennol, y nifer mwyaf erioed, ac yn eu plith roedd gwirfoddolwyr, arweinwyr cymunedol a chynrychiolwyr y diwydiant rheilffyrdd o bob rhan o Gymru, Lloegr a’r Alban.

Bu’r beirniaid yn ystyried dros 300 o geisiadau, pob un yn dangos y gwaith anhygoel sy’n digwydd ledled Prydain i gysylltu cymunedau â’u rheilffyrdd.

Datblygwyd prosiect Gwneud a Gwerthu i arddangos a chysylltu dros 100 o wneuthurwyr annibynnol ar y lein rhwng Abertawe ac Amwythig. Rhan ganolog o’r fenter oedd cyhoeddi ‘Nwyddau ar hyd y Lein’, llawlyfr 48 tudalen o hyd a gafodd ei ddosbarthu’n eang ar hyd y daith ac mewn cyrchfannau twristaidd lleol. Yn ogystal â hyn, trefnodd y bartneriaeth ddigwyddiad rhwydweithio a dosbarth meistr marchnata er mwyn helpu’r busnesau a oedd yn cymryd rhan i gryfhau eu sgiliau a chodi eu proffil.

Mae’r prosiect wedi arwain miloedd o ymwelwyr ar hyd y lein, dosbarthwyd dros 6,000 copi o’r llawlyfrau, cysylltodd y cyfryngau cymdeithasol â mwy na 500,000 o bobl ac mae digwyddiadau cymunedol wedi cynhyrchu dros £1,000 mewn gwerthiant uniongyrchol i wneuthurwyr lleol. Yn ôl y busnesau, maent wedi ennill cwsmeriaid newydd, cryfhau eu cysylltiadau â’r gymuned a chael cyfle i rannu’r gwersi gwerthfawr a ddysgwyd.

Dywedodd Owen Griffkin, Swyddog Datblygu Rheilffordd Gymunedol Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru: “Mae dod yn ail yng Ngwobrau Rheilffyrdd Cymunedol yn fraint arbennig ac yn brawf o ymroddiad pawb sydd wedi cymryd rhan. Yn ogystal â’r llawlyfr, mae’r prosiect yn ceisio creu cysylltiadau gwirioneddol rhwng y bobl y tu ôl i’r cynnyrch ar hyd y lein brydferth hon a’r ymwelwyr a’r cymunedau sy’n teithio arni. Rydyn ni’n hynod o falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar i’r dyfodol.”

Dywedodd Melanie Lawton, Swyddog Arweiniol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: “Mae prosiect Gwneud a Gwerthu yn enghraifft wych o’r hyn gall rheilffordd gymunedol ei gyflawni pan fydd yn rhoi lle canolog i bobl leol a busnesau lleol. Maen nhw wir yn haeddu’r wobr yma, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn falch iawn o gefnogi’r bartneriaeth i gyflawni gwaith sy’n cael y fath effaith wrth hybu datblygiad cymdeithasol ac economaidd ymhlith y cymunedau lleol sy’n cael eu gwasanaethu gan Lein Calon Cymru.”

Dywedodd Clair Swales, Prif Weithredwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys: “Rydyn ni’n eithriadol o falch o weld Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru yn cael ei chydnabod fel hyn.

“Mae prosiectau fel Gwneud a Gwerthu yn dangos y gall rheilffyrdd wneud llawer mwy na chysylltu lleoedd – maen nhw’n gallu cysylltu pobl, cefnogi busnesau lleol, a dathlu ysbryd unigryw ein cymunedau.

“Mae’r wobr hon yn adlewyrchu angerdd a chreadigrwydd pawb sydd wedi cymryd rhan, ac rydyn ni’n falch o weld y gwahaniaeth mae’r Bartneriaeth yn ei wneud ar hyd y lein.”

Gan edrych i’r dyfodol, mae’r bartneriaeth yn bwriadu diweddaru’r llawlyfr yn flynyddol gyda hysbysebion a noddwyr, gan sicrhau bod y prosiect yn dal i gefnogi economïau gwledig tra’n hybu teithio cynaliadwy ar Lein Calon Cymru.

Dywedodd Samantha Skyrme, Cadeirydd Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru: “Mae Gwneud a Gwerthu yn brosiect arloesol ac mae’r wobr hon yn dod ar adeg gyffrous wrth i’r tîm ddatblygu’r syniad ymhellach.”

Yn fwy eang, mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru yn darparu amrywiaeth eang o fentrau ymgysylltu â’r gymuned a chynhwysiant cymdeithasol, yn cefnogi gwirfoddoli mewn gorsafoedd ac yn hybu teithio gwyrdd a thwristiaeth ar y rheilffyrdd.

Mae’r mudiad rheilffyrdd cymunedol yn dal i dyfu ledled Prydain. Erbyn hyn, mae 76 o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol a tua 1,300 o grwpiau gwirfoddol mewn gorsafoedd yn gweithio gyda gweithredwyr trenau, cynghorau a sefydliadau lleol i wneud teithio ar y rheilffyrdd yn fwy hygyrch a chynaliadwy, a gwella’r cysylltiad â chymunedau lleol.

Dywedodd Jools Townsend, Prif Weithredwr y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol: “Mae ein gwobrau yn dathlu’r gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a phartneriaethau lleol sy’n helpu i drawsnewid gorsafoedd rheilffyrdd Prydain yn byrth croesawgar i’w cymunedau.

“O gefnogi pobl ifanc i deithio’n annibynnol, i greu gorsafoedd gwyrddach a mannau cymunedol llewyrchus, mae’r prosiectau hyn yn dangos pa mor bwerus gall gweithredu lleol fod.

“Wrth i’r rheilffordd ddathlu ei phen-blwydd yn 200 oed, mae rheilffyrdd cymunedol yn helpu i sicrhau fod a wnelo dyfodol y rhwydwaith â phobl a lleoedd yn ogystal â threnau a chledrau. Llongyfarchiadau i Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru a’n holl enillwyr, a diolch i bawb sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo rheilffyrdd cymunedol, gan helpu’r mudiad i fynd o nerth i nerth.”