Dweud eich dweud ar ddyfodolgwasanaethau iechyd ym Mhowys

Mae pobl ledled Powys yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus mawr ar ddyfodol gwasanaethau lleol y GIG. 

Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus o’r 5 Hydref 2026 i’r 10 Ionawr 2027 ar gynigion ar gyfer iechyd corfforol oedolion, iechyd meddwl oedolion, gofal brys a rhai gwasanaethau diagnosteg.

Mae’r ymgynghoriad wedi’i ddatblygu mewn ymateb i’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau iechyd, gan gynnwys galw cynyddol, poblogaeth sy’n heneiddio ac anawsterau recriwtio a

chadw’r gweithlu. Mae’n canolbwyntio ar sut y gallai gwasanaethau’r GIG ym Mhowys esblygu dros y 10 mlynedd nesaf a thu hwnt i helpu sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddiogel, yn effeithiol ac yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Nid oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi’u gwneud ynghylch newidiadau i wasanaethau yn y dyfodol. Mae’r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i drigolion, cleifion, gofalwyr, staff, gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol, sefydliadau partner ac unigolion eraill sydd â diddordeb adolygu’r cynigion, ystyried y dystiolaeth ategol a rhannu eu barn.

Yn ôl BIAP, byddai’r holl opsiynau sy’n cael eu hymgynghori arnynt yn cadw gwasanaethau ym mhob safle ysbyty cymunedol ym Mhowys ac yn cynnwys cynigion i gryfhau’r gofal a ddarperir yng nghartrefi pobl a chymunedau lleol.

Mae nifer o ffyrdd i gymryd rhan, gan gynnwys:

  • Darllen y dogfennau ymgynghori a’r wybodaeth ategol
  • Cwblhau’r holiadur ymgynghori
  • Mynychu digwyddiad galw heibio lleol.
  • Ymuno â digwyddiad ymgynghori ar-lein
  • Darparu adborth drwy e-bost

Fel rhan o’r ymgynghoriad, cynhelir 13 o ddigwyddiadau galw heibio lleol ledled Powys ochr yn ochr â thri digwyddiad ar-lein. Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfleoedd i ddysgu mwy am y

cynigion, gofyn cwestiynau a thrafod yr opsiynau cyn cyflwyno adborth.

Bydd deunyddiau ymgynghori ar gael yn Gymraeg a Saesneg, gyda fformatau amgen gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, sain a Darllen Hawdd hefyd ar gael.

Dysgwch fwy a chymerwch ran

Bydd rhagor o wybodaeth, dogfennau ymgynghori, manylion y digwyddiad a’r holiadur ymgynghori ar gael yn: biap.gig.cymru/GwellaGydanGilydd

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 10 Ionawr 2027. Bydd adborth a dderbynnir yn ystod yr ymgynghoriad yn cael ei ddadansoddi a’i ystyried yn annibynnol gan BIAP cyn gwneud unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol.