Cymerwch ran: Gwirfoddolwch yn Taith Prydain Lloyds i Ferched 2026
Mae lleoliadau cynnal Taith Prydain Lloyds i Ferched 2026 wedi cael eu datgelu gyda Chymru yn cynnal cymal tri a phedwar o’r Wyddgrug i’r Gogarth Fawr, Llandudno, a Llanidloes i’r Gelli Gandryll.
Daw rhifyn 2026, rhan o Daith y Byd UCI i Ferched, i’r Wyddgrug am y tro cyntaf ar gyfer cymal tri ddydd Gwener 21 Awst ac yn dychwelyd i Bowys ddydd Sadwrn 22 Awst.
Gweler y rhestr lawn o gymalau isod:
Cymal 1: Cockermouth – Cockermouth
Cymal 2: Clitheroe – Blackpool
Cymal 3: Yr Wyddgrug i’r Gogarth, Llandudno
Cymal 4: Llanidloes i’r Gelli Gandryll
Cymal 5: Royal Leamington Spa – Royal Leamington Spa
Bydd cyhoeddiadau pellach, gan gynnwys manylion y llwybrau ym mhum cymal ras y merched a ras y dynion, yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda Thaith Prydain? Gallwch gofrestru eich diddordeb yma a chwarae rhan yn y digwyddiad mwyaf y gellir ei wylio am ddim yn y DU.
Mae cynnal digwyddiadau beicio mawr fel Taith Prydain Lloyds i Ferched yn rhan o bartneriaeth a gytunwyd rhwng British Cycling, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Conwy a Chyngor Powys i feithrin cysylltiadau beicio a thwristiaeth yn y rhanbarth.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Preston, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: “Rydym yn hynod falch o groesawu cymal pedwar Taith Prydain Lloyds i Ferched i Bowys. Mae’n anrhydedd enfawr ac yn rhoi cyfle gwych i ni arddangos ein sir hardd a dod â manteision economaidd i’n cymunedau trwy fwy o dwristiaeth.
“Gyda disgwyl miloedd o wylwyr a sylw yn y cyfryngau byd-eang, bydd yn fuddiol i fusnesau lleol a’r economi ymwelwyr, tra hefyd yn ysbrydoli mwy o bobl i fod yn egnïol a mwynhau seiclo. Wrth i ni edrych ymlaen at gynnal rhan o Grand Départ y Tour de France yn 2027, mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i osod Powys yn gadarn ar y map fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr.”
Yn y Trallwng, Powys hefyd bydd cymal tri Grand Départ y Tour de France yn 2027 yn cychwyn ar ddydd Sul 4 Gorffennaf 2027. Bydd Taith Prydain Lloyds felly yn rhoi rhagflas o’r rhanbarth gyda rasys beicio o’r radd flaenaf yr haf hwn. Cofrestrwch i wirfoddoli yma
LLUN: Taith Prydain Lloyds i Ferched yn ystod ei hymweliad diwethaf â Phowys yn 2024.
