Cyllido Teg ar Waith: Cymhwyso’r Cod Cyllido
25 Tachwedd 2026
10 am – 11 am | Ar-lein
Mae cyllido da yn ymwneud â mwy na dosbarthu arian. Mae’n ymwneud â chreu partneriaethau cryf sy’n arwain at wasanaethau a chanlyniadau gwell i bobl a chymunedau.
Ymunwch â ni i edrych ar God Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllido’r Trydydd Sector a’i bum egwyddor. Trwy enghreifftiau a thrafodaethau ymarferol, byddwn yn ystyried sut gall cyllidwyr a mudiadau a gyllidir weithio gyda’i gilydd i wella deialog, cryfhau tegwch, cynyddu hyblygrwydd a gwneud i gyllido weithio’n well i bawb dan sylw
|
Hwb Gwybodaeth
Os ydych chi’n gweithio yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, mae’r Hwb Gwybodaeth newydd yn rhoi mynediad hawdd i chi at amrediad o wybodaeth, rhwydweithio a dysgu ar-lein.
Torf-gyllido hyfforddiant
Y cwrs cywir ond yn y lleoliad neu iaith anghywir? Os gwelwch gwrs sy’n ennyn eich diddordeb yn y rhaglen hyfforddi hon neu rywle ar ein gwefan ond nid yw’n cael ei gynnal mewn lleoliad cyfleus neu byddai’n well gennych wneud y cwrs yn Gymraeg neu’n ddwyieithog yna mae croeso i chi gysylltu â ni. Os gallwch ddod o hyd i ddiddordeb yn y cwrs yn eich ardal yna gallwn ni ddod atoch chi a’ch helpu i’w hyrwyddo hefyd.
Hyfforddiant ac ymgynghoriaeth wedi’u teilwra
Gallwn ni ddod atoch chi! Mae modd cynnal pob un o’n cyrsiau yn arbennig i chi yn eich mudiad. Mae hyn yn aml yn rhatach gan ddibynnu ar y niferoedd. Mae cyrsiau Cymraeg a dwyieithog hefyd ar gael. Gallwn weithio gyda mudiadau ledled Cymru a Lloegr.
Cymryd Rhan
I weld manylion llawn y cwrs, gan gynnwys prisiau a faint o leoedd sydd ar gael, cliciwch ar ddyddiad y cwrs neu cysylltwch â’n Lein Gymorth 0300 111 0124 neu training@wcva.cymru.
