Sesiynau ymgysylltu ar y Strategaeth Genedlaethol ddrafft ar gyfer Gofalwyr Di-dâl
Mae’n bleser gennym rannu manylion ein sesiynau ymgysylltu ar y Strategaeth Genedlaethol ddrafft ar gyfer Gofalwyr Di-dâl. Bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle i bobl ledled Cymru glywed mwy am y strategaeth ddrafft a rhannu eu barn.
Sesiynau Ymgysylltu
Gogledd Cymru
- 19 Mawrth 2026,
- Amser: 13:00-15:00
- Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno
De Cymru
- 23 Mawrth 2026
- Amser: 10:30-12:30
- Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Merthyr Tudful
Gorllewin Cymru
- 26 Mawrth 2026
- Amser: 10:30-12:30
- Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Sir Gaerfyrddin
Sesiynau Rhithiol – Wedi’u cyflwyno trwy Microsoft Teams
• Sesiwn Rithiol 1: 27 Mawrth 2026, 10:30-12:30
• Sesiwn Rithiol 2: 31 Mawrth 2026, 12:30-13:30
Mae’r sesiynau hyn yn agored i unigolion, sefydliadau a grwpiau cymunedol sy’n dymuno dysgu mwy am y strategaeth ddrafft a chyfrannu at yr ymgynghoriad. Gellir archebu’r sesiynau hyn trwy wefan Digwyddiadur Busnes Cymru
Mae’r ymgynghoriad yn fyw ac ar agor tan 13 Ebrill 2026. Mae’r manylion a’r dogfennau llawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Strategaeth Genedlaethol Ddrafft ar gyfer Gofalwyr Di-dâl.
