Ymgysylltu ar Fframwaith Polisi newydd y Llywodraeth: Gofal Brys ac Acíwt

Mae dechrau tymor newydd o’r llywodraeth yn gyfle pwysig i bennu cyfeiriad cenedlaethol clir ar gyfer gofal brys ac acíwt, gan alinio partneriaid y tu ôl i flaenoriaethau cyffredin i wella canlyniadau, profiad a gwerth i boblogaeth Cymru.

Gyda Llawlyfr polisi ‘Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng’ y Llywodraeth flaenorol bellach wedi’i gwblhau, rydym am weithio gyda phobl, cymunedau a phartneriaid ledled Cymru i sicrhau bod gwasanaethau’n darparu mynediad amserol, gofal o ansawdd uchel a chanlyniadau gwell i’n cleifion mwyaf sâl a mwyaf cymhleth.

Mae gwasanaethau gofal brys ac acíwt yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi pobl pan fyddant yn sâl neu pan fydd ganddynt anaf sy’n gofyn am asesiad cyflym, triniaeth, cydgysylltu, gofal arbenigol neu dderbyniad i’r ysbyty. Mae’r gwasanaethau hyn yn cydweithio’n agos â gofal sylfaenol, gwasanaethau cymunedol, gwasanaethau iechyd meddwl, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector.

Y bwriad yw i’r fframwaith polisi bennu cyfeiriad clir at ddiwedd tymor y Llywodraeth yn 2030 a disgrifio sut y gall partneriaid ledled Cymru gydweithio i wella canlyniadau i bobl sydd â’r anghenion gofal brys ac acíwt mwyaf difrifol a chymhleth yn yr ysbyty.

Bydd yn ategu, yn hytrach na dyblygu, y rhaglenni Cymunedol o’r Cychwyn a Systemau Gofal Cymunedol Integredig . Er bod y rhaglenni hynny’n arwain gwaith hanfodol ar atal, iechyd poblogaethau, rheoli cyflyrau cronig, rhag-gynllunio gofal a chymorth cymunedol, bydd y fframwaith hwn yn canolbwyntio ar gyfraniad gofal brys ac acíwt at ganlyniadau’r system gyfan.

Rydym yn gobeithio y byddwch chi’n cefnogi’r datblygiad polisi hwn ac yn helpu i lywio dyfodol gofal brys ac acíwt.

Wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid, rydym yn ceisio deall:
• Yr heriau allweddol sy’n wynebu pobl y mae arnynt angen gofal brys ac acíwt.
• Yr hyn sy’n gweithio’n dda ar hyn o bryd a’r hyn a ddylai gael ei gryfhau.
• Meysydd lle mae angen gwella canlyniadau, profiad neu fynediad – yn enwedig lle mae oedi y gellir ei osgoi ar draws y system a lle nad yw gofal yn cael ei ddarparu mewn amserlenni sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
• Y blaenoriaethau pwysicaf ar draws gofal brys ac acíwt ar gyfer y cyfnodau 4 a 10 mlynedd nesaf.
• Sut y gall gwasanaethau weithio’n fwy effeithiol gyda’i gilydd ar draws ffiniau  sefydliadau a sectorau a sut y gellir gwella cyfnodau pontio o ran gofal i wella canlyniadau, profiad a gwerth.

Fel rhan o ddatblygiad y fframwaith, rydym yn ystyried hefyd sut y gallwn gryfhau ein gwybodaeth bresennol gyfredol am yr adran achosion brys ac ysbytai acíwt a sut yr ydym yn defnyddio ein data mor dryloyw ac effeithiol â phosibl i fesur beth sy’n ystyrlon yn glinigol a beth sy’n bwysig i gleifion a staff. Mae hyn yn cynnwys ein dull o fesur gofal mewn coridor.

Bydd eich mewnwelediadau a’ch arbenigedd yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod y fframwaith polisi yn adlewyrchu anghenion pobl a chymunedau ledled Cymru ac yn cefnogi gwelliannau ystyrlon a chyflawnadwy.

Mae canllaw trafod byr i randdeiliaid yn cael ei ddatblygu i helpu i lywio adborth gan randdeiliaid a sgyrsiau. Byddwn hefyd yn sefydlu rhai grwpiau penodol i fwrw ymlaen â chyfleoedd cyflawni cynnar. Byddai unrhyw brofiadau, tystiolaeth, adborth neu enghreifftiau o arferion da perthnasol gan eich sefydliad neu rwydweithiau yn cael eu derbyn yn ddiolchgar. Bydd swyddogion yn cysylltu â chi neu’ch timau gyda gwybodaeth bellach.

Bydd fframwaith polisi wedi’i adnewyddu yn sicrhau bod gwasanaethau gofal brys ac acíwt wedi’u cyfarparu i ateb y galw yn y dyfodol, i leihau amrywiadau diangen ac i ddarparu gofal
amserol o ansawdd uchel i bobl ledled Cymru. Diolch ichi i gyd am eich cefnogaeth a’ch cyfraniad at y gwaith pwysig hwn.