Galluogi eich tîm i wneud gwahaniaeth gwirioneddol – hyfforddiant ymwybyddiaeth ariannol am ddim

Ydych chi, eich staff neu’ch gwirfoddolwyr yn gweithio’n uniongyrchol â theuluoedd, plant, pobl ifanc, pobl hŷn, neu’r rhai sydd angen cymorth arnynt? Hoffech iddynt deimlo’n fwy hyderus yn sylwi ar rywun sydd angen mwy o gymorth arno – a gwybod yn union pa gymorth sydd ar gael?

Mae Dangos yma i helpu.

Rydym wedi lansio cyrsiau ar-lein, wedi’u diweddaru ac am ddim, a ddyluniwyd yn arbennig i weithwyr rheng-flaen ledled Cymru – y rhai sy’n cysylltu’n ddyddiol (yn wirfoddol neu â thâl) ag unrhyw un sydd angen cymorth arno. Mae ein sesiynau hyblyg yn ei gwneud yn hawdd cael y wybodaeth ddiweddaraf, er mwyn ichi roi cymorth gwell i’r bobl yr ydych yn gweithio â hwy. Ariennir Dangos gan Lywodraeth Cymru.

Sut bydd hyn yn helpu eich gwaith gyda phobl:

  • Sylwi ar gyfleoedd i helpu: Gall hwb bach i’ch ymwybyddiaeth olygu y gallwch gysylltu pobl â’r cymorth cywir ar yr adeg gywir.
  • Cael y newyddion diweddaraf am beth sydd ar gael: Mae ein sesiynau rhyngweithiol a’n pecynnau gwybodaeth yn nodi’r newidiadau diweddaraf a’r cynlluniau cymorth, felly bydd y newyddion diweddaraf ar flaenau eich bysedd.
  • Ymateb i anghenion gwahanol: Byddwn yn cynnig sesiynau dynodedig sy’n canolbwyntio ar:

o    Cyrsiau Sylfaenol a Chanolradd: ar gyfer unrhyw newydd-ddyfodiaid, neu unrhyw un a hoffai ddiweddaru ei wybodaeth bresennol.

o    Plant a phobl ifanc

o    Pobl hŷn

o    Y rhai sydd angen cymorth arnynt

o    Beth sydd wedi Newid ac yn Newid

  • Magu hyder, a pheidio â gorlethu: Nid ydym am eich troi’n gynghorydd budd-daliadau – yn hytrach byddwn yn rhoi ichi wybodaeth ymarferol ac awgrymiadau, a sicrwydd ychwanegol er mwyn ichi gyfeirio pobl yn hyderus.
  • Dysgu hyblyg: Ymunwch â ni dros Zoom, Teams neu Google Meet, mewn sesiynau wedi’u teilwra ar gyfer y newyddion cyffredinol diweddaraf neu ar gyfer pynciau mwy dwys gan gynnwys gofal cymdeithasol, budd-daliadau addysgol neu bensiynau.
  • Cefnogaeth barhaus: Y newyddion diweddaraf, adnoddau, a chymuned gefnogol ar ein fforwm ar-lein.

Ar gyfer pwy mae hwn?

  • Unrhyw un a allai ddod ar draws teuluoedd neu unigolion a allai fod angen mwy o gymorth arnynt
  • Unrhyw un â phrofiad rheng-flaen a hoffai dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf

Sut i gymryd rhan:

  • Cofrestru fel unigolyn ar gyfer y sesiynau yn www.dangos.wales neu www.dangos.cymru
  • Archebu cwrs mewnol i’ch staff (10–20 o gyfranogwyr) a cheisiwn ei deilwra ar gyfer eich gwasanaeth chi. Archebwch sesiynau mewnol drwy fynd i https://bit.ly/Dangos_In-House
  • Lawrlwytho adnoddau, ymuno â’n fforwm, a derbyn diweddariadau parhaus ar ein gwefan

Cynhelir y sesiynau ymarferol, hynod ryngweithiol dros dair awr am ddim, yn Gymraeg neu’n Saesneg. Maent yn cynnwys pecynnau gwybodaeth cynhwysfawr.

Gallai’ch tîm helpu i newid bywydau – trwy wybod pa gymorth sydd ar gael a thrwy fod â’r gallu i annog pobl i’w gyrraedd.

Anogwch eich staff a’ch gwirfoddolwyr i ymuno â’r fenter bwysig hon!

I gael mwy o wybodaeth, anfonwch neges e-bost atom yn info@dangos.cymru neu info@dangos.wales.