Cynhadledd Gwyl Dewi 2026: Plismona Mewn Oes Ddigidol

Bydd cynhadledd eleni’n canolbwyntio ar arloesedd digidol mewn plismona a diogelwch cymunedol, gan archwilio i’r ffordd mae technoleg yn cael ei defnyddio i warchod cymunedau, cefnogi dioddefwyr a gwella canlyniadau. Bydd y rhaglen yn cynnwys sesiynau ar bynciau megis deallusrwydd artiffisial, troseddau seiber a bygythiadau digidol, gwaith fforensig digidol, technoleg Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu ac offer sy’n dod i’r amlwg er mwyn cefnogi plismona modern.

Ochr yn ochr â’r ffocws digidol, bydd y gynhadledd yn adlewyrchu ar ddegawd o waith partneriaeth, gan gydnabod cyfraniad ar y cyd yr heddlu, gwasanaethau a gomisiynir, gwirfoddolwyr a phartneriaid o ran cyflenwi cymunedau mwy diogel ledled y rhanbarth.

Dyddiad: Dydd Mercher, 4 Mawrth, 2026

Lleoliad: Pencadlys Heddlu Dyfed-Powys

Cofrestrwch Fan Hyn: Plismona Mewn Oes Ddigidol