Sgyrsiau Cymunedol: Yr hyn a ddywedwyd wrthym

Yn ystod yr haf llynnedd, lansiwyd ein prosiect Sgyrsiau Cymunedol i gael clywed yn uniongyrchol gan bobl ledled Powys beth oedd bwysicaf iddynt, y cryfderau yr oeddent am eu diogelu, a’r heriau sy’n wynebu eu cymunedau.

Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Powys.

Yn ystod y prosiect, rhannodd pobl o gymunedau ar draws Powys eu profiadau, eu barn a’u syniadau mewn amrywiaeth o ffyrdd:

  • Cymerodd 1,232 o bobl ran yn yr arolwg ‘Llunio Dyfodol Cymunedau Powys’, a gynhaliwyd ledled y sir.
  • Mynychodd 574 o bobl 18 digwyddiad Sioe Deithiol a Sgwrs Gymunedol, gan ddod â thrigolion, grwpiau cymunedol, cynghorwyr a gwasanaethau cyhoeddus ynghyd.
  • Cymerodd 510 o bobl ran mewn Grwpiau Ffocws dilynol, gan ein helpu i archwilio rhai o’r materion a godwyd yn fanylach.

Rydym bellach yn falch o rannu adroddiadau Sgyrsiau Cymunedol, sy’n dod â’r hyn ddywedodd pobl wrthym drwy gydol y prosiect at ei gilydd.

Mae’r adroddiadau’n cynnwys:

  • Adroddiad terfynol y prosiect, sy’n crynhoi prif ganfyddiadau’r prosiect cyfan.
  • Dadansoddiad llawn o’r arolwg, sy’n rhoi cipolwg manwl ar yr ymatebion i’r arolwg ‘Llunio Dyfodol Cymunedau Powys’.
  • 18 adroddiad ardal, sy’n amlygu’r hyn a ddywedodd pobl wrthym am eu cymunedau lleol.
  • Adroddiad ar faterion systemig ehangach a nodwyd drwy’r prosiect, i gyrff cyhoeddus eu hystyried a gweithredu arnynt.

Gyda’i gilydd, mae’r adroddiadau yma yn rhoi darlun gwerthfawr o’r blaenoriaethau, y cryfderau a’r heriau a nodwyd gan bobl a chymunedau ledled Powys.

Diolch i bawb a dreuliodd amser yn rhannu eu barn, eu profiadau a’u syniadau gyda ni.

Darllen yr adroddiadau

SGYRSIAU CYMUNEDOL Adroddiad terfynol y prosiect Cym

Ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd

What Matters to People in Powys_ An Analysis of the Community Conversations Survey

Brecon area report

Builth Wells area report

Crickhowell area report

Hay on Wye area report

Knighton area report

Llandrindod Wells area report

Llanfair Caereinion area report

Llanfyllin area report

Llanidloes area report

Llanwrtyd Wells area report

Machynlleth area report

Montgomery area report

Newtown area report

Presteigne area report

Rhayader area report

Talgarth area report

Welshpool area report

Ystradgynlais area report

COMMUNITY CONVERSATIONS_ Wider system issues for public bodies to take forward

Os oes angen unrhyw un o’r adroddiadau arnoch mewn fformat gwahanol, fel copi caled neu brint bras, neu os hoffech ragor o wybodaeth am gynnwys yr adroddiadau, cysylltwch â ni:

E-bost: info@pavo.org.uk
Ffôn: 01597 822 191

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant a Rennir y DU