Sgyrsiau Cymunedol: Dyddiad newydd wedi’i ychwanegu yn Nhalgarth

Rydym wedi ychwanegu dyddiad newydd at ein cyfres o Sgyrsiau Cymunedol. Rydym yn gwahodd pobl leol i helpu i lunio dyfodol eu cymunedau drwy rannu’r hyn sydd bwysicaf iddynt, tynnu sylw at fylchau mewn gwasanaethau lleol, ac awgrymu gwelliannau ymarferol yr hoffent eu gweld yn eu hardal.

DYDDIAD NEWYDD:

Talgarth – Dydd Llun 15fed o Ragfyr – 12:30 – 14:30, Neuadd y Dref, Y Sgwâr, LD3 0AF

Noder: Sgwrs Gymunedol yn unig fydd y digwyddiad heb Ffair Gymunedol.

Hefyd i ddod:

Trefaldwyn – Dydd Mawrth 2il Rhagfyr, 10:00–13:00, Neuadd y Dref, Trefaldwyn, Stryd Broad, SY15 6PH

Llanfair Caereinion – Dydd Mercher 3ydd Rhagfyr, 10:00–13:00, Yr Institiwt Llanfair, Stryd y Bont, SY21 0RY

Tref-y-clawdd – Dydd Iau 4ydd Rhagfyr, 10:00–13:00, Canolfan Gymunedol Tref-y-clawdd, Bowling Green Lane, LD7 1DR

Y Trallwng – Dydd Iau 4ydd Rhagfyr, 10:00–13:00, COWSHACC, Lôn Oldford, SY21 7TE

Llanfair-ym-Muallt – Dydd Llun 8fed Ragfyr, 12:30 – 14:30, TIC Building, Y Groe, LD2 3BL (Sgwrs Gymunedol yn unig, dim Ffair Gymunedol)

Machynlleth – Dydd Mercher 10fed Rhagfyr, 10:00–13:00, Y Plas, Tir Y Plas, Stryd Pentrerhedyn, SY20 8ER

Llanfyllin – Dydd Iau 11eg Rhagfyr, 10:00–13:00, Yr Institiwt, Stryd Fawr, SY22 5AA

Gweler ein calendr digwyddiadau am fwy o fanylion: https://www.pavo.org.uk/cy/events/

Gwahoddir pawb ym Mhowys i ymuno yn y sgwrs – boed trwy fynychu digwyddiad lleol neu lenwi arolwg byr ar-lein am fywyd yn y sir. Byddai’n wych eich gweld chi mewn un o’r digwyddiadau.

Hoffai eich sefydliad gael lle yn un o’r digwyddiadau? Anfonwch e-bost atom yn: community.conversations@pavo.org.uk a byddwn yn anfon ffurflen archebu atoch.

Mae’r digwyddiadau hyn yn rhan o raglen Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.