Breast Screening – What to Expect

Mae fideo sgrinio’r fron newydd ‘Sgrinio’r Fron – Beth i’w Ddisgwyl’ ar gael yn y Gymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Bron Prawf Cymru, sy’n rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi cynhyrchu’r fideos.
Mae’r fideos hyn yn helpu pobl i ddeall beth yw sgrinio’r fron a pham ei fod yn bwysig.
Mae’r fideos yn dangos:
- y daith sgrinio bronnau o’r gwahoddiad i’r canlyniadau
- sut mae pelydr-X o’r fron (mamogram) yn cael ei gymryd; a
- pha gefnogaeth sydd ar gael.
Dywedodd Dean Phillips, Pennaeth y Rhaglen, Bron Prawf Cymru:
“Mae’r fideos yn helpu i baratoi pobl ar gyfer sgrinio’r fron. Maent yn arbennig o bwysig i unigolion sy’n cael eu gwahodd am y tro cyntaf, neu i’r rhai nad ydynt wedi manteisio ar eu cynnig sgrinio o’r blaen.”
Gallwch ddod o hyd i’r fideos ar dudalen Adnoddau Hygyrch gwefan Bron Prawf Cymru.