Y Bwrdd yn cytuno ar ymgynghoriad ledled y sir ar wasanaethau iechyd y dyfodol
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ledled y sir ar gynigion a allai lunio iechyd corfforol oedolion, iechyd meddwl oedolion, gofal brys a rhai gwasanaethau diagnostig ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Mae’r penderfyniad yn dilyn ystyriaeth y Bwrdd o Achos Busnes Cyn Ymgynghori Gwella Gyda’n Gilydd yn ei gyfarfod ar 16 Medi 2026.
Mae’r cynigion yn ymateb i heriau mawr sy’n wynebu gwasanaethau iechyd. Mae pobl yn byw’n hirach, yn aml gyda nifer o gyflyrau hirdymor; mae’r galw’n cynyddu; ac mae recriwtio a chadw’r gweithlu sydd ei angen i gynnal gwasanaethau bach ar draws sir wledig fawr yn dod yn fwyfwy anodd.
Mae Gwella Gyda’n Gilydd yn gofyn sut y dylai gwasanaethau’r GIG esblygu dros y 10 mlynedd nesaf a thu hwnt fel eu bod yn parhau i fod yn ddiogel, yn effeithiol ac yn gynaliadwy, gan helpu mwy o bobl i aros yn iach, aros yn annibynnol a derbyn gofal gartref neu’n agosach at adref.
Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud ynghylch newidiadau i wasanaethau yn y dyfodol. Mae penderfyniad ddoe yn golygu y bydd yr opsiynau sydd wedi’u cyhoeddi bellach ar gael i’w craffu gan y cyhoedd fel y gall preswylwyr, cleifion, gofalwyr, staff a sefydliadau partner ystyried y dystiolaeth, disgrifio effeithiau posibl, awgrymu dewisiadau amgen a helpu llunio’r hyn sy’n digwydd nesaf.
Mae pob opsiwn yn cadw gwasanaethau ym mhob safle ysbyty cymunedol ym Mhowys. Mae pob opsiwn hefyd yn cynnwys camau sylweddol i wella’r gwasanaethau cymunedol sydd ar gael yng nghartrefi pobl ac, wrth i’r gwelliannau hyn gael eu cyflawni, byddai’r angen am ofal mewn gwelyau yn lleihau. Felly mae’r opsiynau ymgynghori yn nodi gweledigaeth ar gyfer y dyfodol gyda gwelyau cleifion mewnol ysbytai cymunedol ar lai o safleoedd nag nawr.
Byddai opsiynau’n cryfhau ymatebion cymunedol brys ac yn sefydlu Canolfannau Gofal Brys, ar agor o 8yb i 8yh, saith diwrnod yr wythnos, gydag ystod ehangach o wasanaethau asesu, triniaeth a diagnostig nag y gall Unedau Mân Anafiadau presennol eu darparu.
Byddai’r cynigion hefyd yn cryfhau iechyd meddwl cymunedol, ymateb i argyfyngau, GIG 111 Cymru Pwyso 2 a gwasanaethau lloches, ochr yn ochr ag un ganolfan ragoriaeth ar gyfer gofal cleifion mewnol iechyd meddwl organig a swyddogaethol yn ardal Bronllys / Aberhonddu.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 5 Hydref 2026 i 10 Ionawr 2027. Cynhelir tair ar ddeg o ddigwyddiadau galw heibio lleol ledled Powys, ochr yn ochr â digwyddiadau ar-lein, gan roi cyfleoedd i bobl gwrdd â’r tîm, gofyn cwestiynau a thrafod y cynigion.
Dywedodd Dr Carl Cooper, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
“Mae penderfyniad heddiw yn nodi dechrau sgwrs, nid diwedd un. Mae’r Bwrdd wedi cytuno y dylid profi’r opsiynau hyn nawr drwy ymgynghoriad teg, tryloyw ac ystyrlon.
“Mae’r argymhellion a gymeradwywyd heddiw wedi’u llywio gan adborth gan filoedd o gleifion, preswylwyr, staff y GIG a sefydliadau partner dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Nid oes unrhyw ganlyniad wedi’i benderfynu ymlaen llaw. Rydyn ni eisiau i bobl brofi’r dystiolaeth, herio ein ffordd o feddwl a helpu llywio’r hyn sy’n digwydd nesaf. Bydd angen i ni ddeall y dystiolaeth, y profiadau, y pryderon a’r dewisiadau amgen a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad a rhoi ystyriaeth gydwybodol iddynt yn gyhoeddus cyn y gellir gwneud unrhyw benderfyniad terfynol.”
Dywedodd Kate Wright, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol:
“Mae llawer o dystiolaeth wedi dod i’r amlwg am niwed o ganlyniad i arosiadau hir yn yr ysbyty. Mae’n amlwg y byddai system iechyd a all cynnig mwy o ofal mewn lleoliadau cymunedol yn darparu gofal a chanlyniadau gwell i gleifion.
“Mae’r cynigion hyn yn archwilio sut y gallwn ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel i genedlaethau’r dyfodol, cefnogi mwy o bobl i aros yn iach ac yn annibynnol, a chadw gofal cleifion mewnol i’r rhai na ellir diwallu eu hanghenion yn ddiogel gartref. Maen nhw’n canolbwyntio ar gryfhau gwasanaethau cymunedol i gleifion ag anghenion corfforol ac iechyd meddwl.
“Rydym eisiau i bobl ddweud wrthym ble gallai’r cynigion wella gofal, ble gallent greu anawsterau a beth arall y dylem ei ystyried.”
Bydd dogfennau ymgynghori, holiadur, fformatau hygyrch a manylion llawn digwyddiadau ar gael o 5 Hydref ar wefan Gwella Gyda’n Gilydd.
Bydd adborth yn cael ei gasglu a’i ddadansoddi’n annibynnol cyn ei ystyried ochr yn ochr ag unrhyw gynigion amgen a thystiolaeth newydd a dderbynnir yn ystod yr ymgynghoriad.
Y cynllun presennol yw i’r Bwrdd ystyried achos penderfyniad yn dilyn ymgynghori yng ngwanwyn 2027.
