Ton 5 Baromedr Cymru ar agor nawr: ffocws ar gyllid ac arian

Pan edrychodd Baromedr Cymru ar gyllid ddiwethaf, dywedodd 45% o fudiadau fod eu sefyllfa ariannol wedi dirywio, roedd 56% wedi defnyddio cronfeydd wrth gefn yn y 12 mis blaenorol a dywedodd 33% nad oedd cyllidwyr yn cwmpasu eu costau’n llawn.

Bydd Ton 5, sydd ar agor nawr rhwng 7 Hydref a 4 Tachwedd, yn rhoi gwiriad tymheredd pwysig i ni o’r hyn sydd wedi newid ers hynny. Ochr yn ochr â’r cwestiynau rheolaidd sy’n olrhain tueddiadau ar draws y sector gwirfoddol, mae’r don hon yn edrych ar sut mae mudiadau’n ymdopi yn ariannol, pa mor hawdd neu anodd yw hi i sicrhau cyllid, a yw grantiau a chontractau yn cwmpasu gwir gostau cyflawni, a sut mae pwysau cyllido yn effeithio ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Anogir mudiadau gwirfoddol o bob math a maint ledled Cymru i gymryd rhan. P’un a yw eu sefyllfa ariannol wedi gwella, wedi aros yr un fath neu’n anoddach nawr, bydd eu profiadau yn helpu i ddangos sut mae’r dirwedd gyllido yn newid ar draws y sector.

Beth fydd y manteision i’ch mudiad chi? 

Trwy gymryd rhan, byddwch yn cael:

  • Adroddiad Mewnwelediad Unigol wedi’i deilwra er mwyn i chi gymharu profiadau eich mudiad chi â thueddiadau ar draws y sector gwirfoddol yn ehangach
  • Tystiolaeth ddefnyddiol ar gyfer sgyrsiau’n ymwneud â chyllido, a fydd eich helpu i roi eich profiad eich hun yng nghyd-destun yr hyn sy’n digwydd yn ehangach ledled Cymru
  • Tystiolaeth i gefnogi cynllunio a gwneud penderfyniadau gydag ymddiriedolwyr, uwch dimau, partneriaid a rhanddeiliaid
  • Mynediad i’r canfyddiadau ehangach, gan eich helpu i ddeall beth mae mudiadau eraill yn ei brofi a sut mae’r sector yn newid

Cymerwch ran yma https://nbsntu.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_7QVHOkxfzmwfBAO 

Yn agor ar 7 Hydref | Yn cau ar 4 Tachwedd | Yn cymryd tua 15-20 munud