Mae Ton 4 Baromedr Cymru ar agor nawr: ffocws ar iechyd a gofal cymdeithasol
Mae mudiadau gwirfoddol yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi iechyd a lles pobl ledled Cymru. Maent yn darparu cymorth ataliol, yn darparu gwasanaethau o fewn cymunedau, ac yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i wella canlyniadau i unigolion a chymunedau.
Ond mae llawer nad ydym yn ei ddeall yn llawn o hyd am brofiad mudiadau gwirfoddol o weithio o fewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol, y cyfleoedd maent yn eu creu, a’r heriau maent yn eu hwynebu.
Pam iechyd a gofal cymdeithasol?
Mae Arsyllfa VCSE a CGGC yn lansio Ton 4 Baromedr Cymru, gyda’r nod o adeiladu darlun cliriach o gyfraniad y sector gwirfoddol i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rydym yn archwilio profiadau mudiadau o weithio gyda phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol, cydweithio â mudiadau eraill, darparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion lleol, ac ymateb i newidiadau ar draws y dirwedd iechyd a gofal cymdeithasol.
Fel ton gyntaf Baromedr Cymru i ganolbwyntio ar iechyd a gofal cymdeithasol, bydd yn darparu llinell sylfaen y gellir mesur tueddiadau’r dyfodol yn ei herbyn, gan ein helpu i olrhain sut mae perthnasoedd, cydweithredu a rôl y sector o fewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn datblygu dros amser.
Trwy gasglu’r mewnwelediadau hyn, gallwn gryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y sector a gwella dealltwriaeth o’r rôl y mae mudiadau gwirfoddol yn ei chwarae wrth gefnogi pobl a chymunedau ledled Cymru.
Ar agor i bob mudiad gwirfoddol
Er bod Ton 4 yn canolbwyntio ar iechyd a gofal cymdeithasol, mae Baromedr Cymru ar agor i bob mudiad gwirfoddol yng Nghymru.
Ochr yn ochr â’r cwestiynau amserol, mae’r arolwg hefyd yn cynnwys cwestiynau chwarterol rheolaidd Baromedr Cymru sy’n ein helpu i olrhain tueddiadau ar draws y sector, gan gynnwys cyllid, y gweithlu a gwirfoddoli, rhagolygon sefydliadol, a newidiadau yn y galw.
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Mae Ton 4 ar agor rhwng 8 Gorffennaf a 5 Awst.
Bydd pob cyfranogwr yn cael:
- Adroddiad Mewnwelediad Unigol, sy’n caniatáu i fudiadau gymharu eu profiadau nhw â thueddiadau’r sector ehangach
- Mynediad cynnar i ddangosfwrdd Baromedr Cymru, sy’n eich galluogi i archwilio’r canfyddiadau cyn gynted ag y cânt eu cyhoeddi
- Gwahoddiad i weminar am ddim sy’n archwilio’r canlyniadau a’u goblygiadau i’r sector
📝 Cymerwch ran yma: https://nbsntu.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_6YeIYvNfBPDpc1M dim ond 15 munud y bydd yn ei gymryd.
Bydd pob cyfranogwr yn cael Adroddiad Mewnwelediad Unigol. Edrychwch ar adroddiad enghreifftiol yma.
