Asedau Ni
Mae Asedau Ni yn wasanaeth cymorth sy’n gweithredu ledled Cymru i helpu cymunedau i ddod i reoli lleoedd ac asedau sy’n bwysig iddyn nhw. Gall hyn gynnwys siopau cymunedol, tafarndai, neuaddau pentref, canolfannau gofal plant, prosiectau ynni cymunedol, mannau celf a diwylliannol, cyfleusterau chwaraeon, parciau, tir fferm, coetiroedd ac asedau cymunedol eraill.
Mae’r rhaglen yn cyfuno cymorth ymarferol, arbenigedd, adnoddau a dysgu ar y cyd er mwyn helpu cymunedau i gymryd camau hyderus tuag at reoli a chynnal asedau cymunedol yn gynaliadwy dros y tymor hir.
Mae’r cymorth sydd ar gael trwy Asedau Ni yn cynnwys:
- Rhwng 6 a 10 diwrnod o gymorth wedi’i deilwra gan dîm Asedau Ni, gan gynnwys cyfeirio at asiantaethau arbenigol a phartneriaid perthnasol.
- Cyllid tuag at ffioedd proffesiynol, megis costau cyfreithiol, prisio, arolygu ac ymgynghori arbenigol.
- Cyngor ar lywodraethu, strwythurau cyfreithiol, cynllunio busnes ac opsiynau ariannu.
- Cymorth i helpu grwpiau i ddatblygu dulliau cynaliadwy ar gyfer rheoli a chynnal asedau cymunedol yn y tymor hir.
- Mynediad at adnoddau ymarferol, templedi, pecynnau cymorth a dogfennau enghreifftiol
Bydd y rhaglen yn cefnogi 75 o grwpiau ledled Cymru dros gyfnod o ddwy flynedd. Byddwn yn gweithio gyda chymunedau sydd ar wahanol gamau o’r broses o ddod i reoli asedau – o’r rhai sy’n ystyried syniad cychwynnol ac yn asesu dichonoldeb, i grwpiau sy’n ceisio sicrhau perchnogaeth, datblygu cynlluniau busnes, cael gafael ar gyllid, neu gryfhau asedau cymunedol presennol.
Caiff Asedau Ni ei ddarparu gan CYD Cymru ac Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo, a gellir cynnig cymorth yn y Gymraeg a’r Saesneg.
I geisio cymorth, gall grwpiau gysylltu â ni drwy communityassets@dtawales.org.uk neu lenwi y ffurflen ymholiadau ar wefan DTA Wales: https://dtawales.org.uk/cy/cysylltwch-a-ni/
Bydd aelod o’r tîm wedyn yn cysylltu â’r grŵp i drafod y prosiect ac archwilio sut y gallai Asedau Ni eu cefnogi.
