Arolwg Rhanddeiliaid PAVO

Yn PAVO, ein nod yw gwella’n barhaus y ffyrdd yr ydym yn darparu gwasanaethau i’r trydydd sector ym Mhowys. Byddem yn ddiolchgar iawn pe baech unwaith eto’n cymryd yr amser i gwblhau ein harolwg rhanddeiliaid, a fydd yn ein helpu i ddeall ac ymateb yn well i anghenion y trydydd sector ac i ddatblygu ein Cynlluniau Busnes a Strategol ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Eleni, rydym hefyd yn gofyn set ychwanegol o gwestiynau a fydd yn ein helpu i ddeall mwy am y trydydd sector lleol ar hyn o bryd; yn ei dro, bydd hyn yn ein galluogi i gynrychioli’r sector yn well drwy ein gwaith partneriaeth ac eiriolaeth. Mae’r adran hon yn ddewisol, ond pe baech yn gallu treulio ychydig funudau ychwanegol yn eu hateb, bydd yn sicrhau bod eich safbwynt yn cael ei gynrychioli’n briodol.

Mae’r ymatebion i’n harolwg yn dylanwadu ar ein gwaith; yn y gorffennol, dywedodd pobl eu bod am gael mwy o gymorth gyda recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr, ac fe wnaethom ddatblygu prosiectau pwrpasol i ateb yr angen hwn, fel y gwnaethom gydag adeiladau cymunedol yn fwy diweddar.

Rydym yn parhau i fonitro ac asesu ein perfformiad yn ôl yr adborth a gawn. Byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn gallu ymateb erbyn 16/01/2026, fel y gallwn gynnwys eich ymatebion yn ein hadolygiad o wasanaethau a datblygu ein Cynllun Busnes newydd ar gyfer 2026–27.

Diolch yn fawr iawn am eich amser. Cliciwch YMA