Gwnewch Gais Nawr: Cronfa Cymorth Gofalwyr 2026-29
Rydym ni’n falch o gyhoeddi bod ceisiadau ar agor ar gyfer Cronfa Cymorth Gofalwyr 2026-29 yn dilyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau i ariannu’r rhaglen hollbwysig hon.
Dyma gyfle gwych i sefydliadau sy’n rhoi cymorth i ofalwyr di-dâl i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r rhai sy’n wynebu caledi ariannol.
Beth sydd ar gael?
- Cyllid ar gael: tua £1.5 miliwn
- Isafswm grant: £20,000
- Ar agor i bartneriaid cyflawni presennol a newydd
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10am, 23 Mawrth 2026
- Dwy sesiwn holi ac ateb ar-lein i gael arweiniad
Nodau’r rhaglen:
- Ei gwneud hi’n haws i ofalwyr di-dâl gael mynediad at wasanaethau cynyddu incwm
- Darparu cyngor a chymorth hyblyg ar gyfer costau byw
- Cynnig cymorth ariannol uniongyrchol i ofalwyr sy’n oedolion ac i ofalwyr ifanc sy’n wynebu caledi
Canlyniadau disgwyliedig:
- Gofalwyr yn cael cymorth i fynd i’r afael â heriau costau byw
- Gwell mynediad at gyngor a chymorth ariannol
- Llesiant meddyliol gwell i ofalwyr
- Rhagor o gyfleoedd i gynyddu incwm
Nodyn pwysig:
Rhaid dyrannu o leiaf 20% o’r arian rydych chi’n gwneud cais amdano i wasanaethau cynyddu incwm.
Y camau nesaf:
- Darllenwch y canllawiau a’r dogfennau cyllideb
- Llenwch a dychwelwch y ffurflen gais erbyn 10am 23 Mawrth 2026
- Cofrestru ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb:
- 2–3pm dydd Mawrth 24 Chwefror 2026; o
- 10–11am dydd Mercher 4 Mawrth 2026
Anfonwch e-bost at csfw@carers.org gyda’ch enw, sefydliad, a chyfeiriad e-bost, gan nodi’r cyfarfod yr hoffech fynychu, i dderbyn dolen y cyfarfod.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â csfw@carers.org.
