Presgripsiynu Cymdeithasol

Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig

Mae ein presgripsiynwyr cymdeithasol yn helpu pobl i:

  • Wneud newidiadau cynaliadwy, hirdymor i'w hiechyd a'u lles
  • Creu cynllun a rennir, gyda chamau clir, nodau mapio a cherrig milltir
  • Canolbwyntio ar eu cryfderau trwy sgwrs "Beth sy'n Bwysig"
  • Creu rhwydweithiau cymorth gryf
  • Mynediad at gymorth a gweithgareddau sydd ar gael yn eu cymuned
Social Prescribing CYM

Sut rydym yn eich cefnogi chi

Mae ein presgripsiynwyr cymdeithasol yn cefnogi pobl nes eu bod yn cyrraedd eu nodau ac yn teimlo'n hyderus yn rheoli eu hiechyd a'u lles yn annibynnol. Gallai enghreifftiau gynnwys:

  • Cefnogaeth uniongyrchol i ymuno â chôr lleol neu grŵp canu i gefnogi iechyd yr ysgyfaint
  • Helpu pobl i gysylltu â grwpiau sy’n rhannu eu diddordebau er mwyn iddynt allu adeiladu eu rhwydweithiau cymorth.
  • Cysylltu pobl â grwpiau cymunedol, fel Versus Arthritis, i gael cymorth gyda rheoli poen yn y cymalau

Gyda phwy mae ein Presgripsiynwyr Cymdeithasol yn Gweithio?

Mae’n presgripsiynwyr cymdeithasol yn cefnogi pobl 50–75 oed sy'n byw ym Mhowys y mae eu hiechyd a'u lles yn cael eu heffeithio gan un neu fwy o'r cyflyrau canlynol:

  • Cyhyrysgerbydol
  • Calon a chylchrediad y gwaed
  • Anadlol
  • Endocrin a metabolaidd
  • Iechyd meddwl

Sut i Gael Cymorth

Gallwch gyfeirio’ch hun neu rywun arall at ein Tîm Llesiant Cymunedol. Byddan nhw’n adolygu’r wybodaeth a rennir gennych ac yn eich cysylltu â’r gwasanaeth mwyaf priodol.

  • Ffoniwch ni: 01597 828 649
  • Anfonwch e-bost atom: community.connectors@pavo.org.uk
  • Ar-lein: Cwblhewch ein Ffurflen Atgyfeirio (Ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd)