Cynlluniau Cardiau Tacsi

Mae dau gynllun ym Mhowys - un yn Y Trallwng ac un ym Machynlleth. Mae'r ardaloedd a gwmpesir gan y cynlluniau hyn yn amrywio, ond radiws o 10 milltir fyddai'r arwynebedd mwyaf y byddai aelodaeth yn cael ei dderbyn.

Mae pob cynllun yn gweithredu mewn ffordd debyg; mae'r Grŵp Gwirfoddol yn codi arian o amrywiaeth o ffynonellau ac yn defnyddio'r arian hwn i sybsideiddio teithiau tacsi a wneir gan ei aelodau. Rhoddir tocynnau o 50c yr un i aelodau hyd at gyfanswm o £50 neu £100 i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy anghysbell. Yna gellir defnyddio’r tocynnau hyn ar gyfer hanner cost taith tacsi, e.e. byddai taith sydd fel arfer yn costio £2 yn costio £1 yn unig a gellid gwneud 50 o'r teithiau hyn drwy gydol y flwyddyn.

Mae cwmnïau tacsis yn gallu hawlio gwerth y tocynnau yn ôl gan y Grŵp Gwirfoddol ac mae'n rhaid i'r cwmnïau hynny sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ddod i gytundeb gyda'r Grŵp Gwirfoddol.

O fewn y mwyafrif o gynlluniau mae aelodaeth wedi'i chyfyngu i'r bobl hynny sy'n oedrannus, yn anabl neu'n dioddef o gyflwr meddyliol neu gorfforol sy'n ei gwneud yn anodd cael mynediad i ddulliau teithio arferol.

 

Mae’r cynlluniau Cerdyn Tacsi canlynol ar waith ym Mhowys:

  • CAMAD (Machynlleth) - 01654 700071
  • Cludiant Cymunedol Y Trallwng - 01938 580459