Cynlluniau Deial i Deithio
Ar hyn o bryd mae deg Cynllun Deial i Deithio ym Mhowys yn gweithredu o Lanfyllin, Machynlleth, Y Drenewydd, Llanidloes, Rhaeadr Gwy, Llanwrtyd, Y Gelli Gandryll, Aberhonddu, Crug Hywel ac Ystradgynlais, ynghyd â dau wasanaeth lloeren a gynigir yn llai aml ym Mhontsenni a Thalgarth.
Mae’r cynlluniau hyn yn rhai cymunedol ac yn cael eu rhedeg gan fudiadau gwirfoddol. Maent yn berchen ar eu cerbydau eu hunain, naill ai bysiau mini neu ‘gludwyr pobl’, ac mae’r mwyafrif o’r cerbydau hyn yn hygyrch i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn neu sy’n cael anawsterau wrth ddefnyddio grisiau. Ar gyfartaledd maent yn darparu gwasanaeth sy’n ymestyn dros radiws 10 milltir o’u tref sylfaen.
Mae’r cynlluniau hyn yn seiliedig ar aelodaeth. Yn y mwyafrif o gynlluniau mae aelodaeth yn gyfyngedig i bobl yn ardal y cynllun sydd, oherwydd henaint, anabledd neu gyflwr meddyliol neu gorfforol, yn ei chael yn anodd defnyddio’r dulliau teithio presennol. Mae cynlluniau mwy newydd yn ymestyn cymhwysedd i unrhyw un sydd ag angen cludiant. Codir tâl aelodaeth flynyddol.
Mae aelodau’n archebu teithiau ymlaen llaw a chodir tâl ar gyfradd sy’n amrywio yn ôl y pellter a deithiwyd. Bydd y gwasanaeth yn mynd â’r aelod o ddrws i ddrws. Mae’r cynlluniau’n defnyddio staff cyflogedig a gwirfoddolwyr i ddarparu’r gwasanaeth ac mae pob gyrrwr wedi’i hyfforddi’n arbennig.
Mae’r cynlluniau Deial i Deithio canlynol ar waith ym Mhowys:
- Galw am Reid Aberhonddu a Chrug Hywel – 01874 624060
- Galw’r Gyrrwr Y Gelli Gandryll – 01497 821616
- Cludiant Cymunedol Llanidloes – 01686 414997
- Cludiant Cymunedol Llanwrtyd – 01982 552727
- Galw’r Gyrrwr – Y Drenewydd a’r Cylch – 01686 622566
- QUBE (Croesoswallt) – 01691 656882
- Cefnogaeth Gymunedol Rhaeadr Gwy – 01597 810921
- Cynllun Gofal Cymunedol Ystradgynlais – 01639 849720