Mae'r Cynlluniau Ceir Cymunedol yn recriwtio gyrwyr gwirfoddol sy'n defnyddio'u car eu hunain i ddarparu cludiant o ddrws i ddrws. Mae'r Cynlluniau yn agored i bobl nad oes ganddynt fynediad rhesymol at fathau eraill o gludiant. Ym Mhowys, y flaenoriaeth ar gyfer trafnidiaeth yw apwyntiadau iechyd, ond mae hefyd yn cynnwys teithiau sy'n diwallu anghenion bob dydd.
Telir treuliau i yrwyr i dalu am y milltiroedd y maent yn eu gwneud hyd at 45c y filltir. Gofynnir i ddefnyddwyr dalu rhai neu’r cyfan o’r costau, ond mae angen cyllid ychwanegol i gwrdd â chostau llawn gweithredu’r gwasanaeth.
Mae’r cynlluniau Ceir Cymunedol canlynol ar waith ym Mhowys:
Cymorth Cymunedol Llanfair-ym-Muallt - 01982 553004
CAMAD (Machynlleth) - 01654 700071
Biwro Gwirfoddoli Crug Hywel - 01873 812177
Galw'r Gyrrwr Y Gelli Gandryll - 01497 821616
Cefnogaeth Gymunedol Trefyclo - 01547 520653
Cludiant Cymunedol Llanidloes - 01686 414997
Cludiant Cymunedol Llanwrtyd - 01982 552727
Biwro Gwirfoddoli Gogledd Sir Drefaldwyn (Y Trallwng) - 01938 554484
QUBE (Croesoswallt) - 01691 656882
Cefnogaeth Gymunedol Llanandras - 01544 267961
Cefnogaeth Gymunedol Rhaeadr Gwy - 01597 810921
Cynllun Ceir Cymunedol Ystradgynlais - 01639 849720