Lein Calon Cymru - Trên i Chwarae

Mae’r bleser gan Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru gyhoeddi cynllun grant newydd sydd wedi’i anelu at sefydliadau, cymdeithasau a chlybiau chwaraeon i hwyluso digwyddiadau a fydd yn eu helpu i gynyddu eu haelodaeth ac annog teithio cynaliadwy.

PAVO SPORT GRant website banner

Rydym yn gwahodd ceisiadau gan grwpiau i drefnu a darparu digwyddiadau neu weithgareddau chwaraeon a fydd yn cael eu cynnal o fewn 2 filltir i orsaf ar Lein Calon Cymru rhwng 1 Gorffennaf a 31 Hydref 2026.  

Bydd pob digwyddiad a arennir yn cael ei hyrwyddo gan ddefnyddio ein hymgyrch frandio arbennig ‘Trên i Chwarae’, a fydd yn rhoi sylw i’r cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol y gellir cael mynediad atynt ar y rheilffordd.

Mae grantiau hyd at £400 ar gael i sefydliadau, ond does dim rhaid i chi ymgeisio am y cyfanswm hwn. 

Gellir defnyddio’r arian ar gyfer hysbysebu, ffioedd hyfforddi, llogi canolfannau, offer a chostau eraill sy’n gysylltiedig â digwyddiad. 

Rydym yn awyddus iawn i gefnogi sefydliadau sydd am gyflwyno gweithgareddau newydd, cyrraedd cynulleidfaoedd newydd, neu ddarparu mathau mwy hygyrch o’u gweithgareddau presennol.  Byddem wrth ein bodd yn gweld mentrau sy’n annog pobl i ddefnyddio’r trên i gymryd rhan.

 Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Mehefin 2026 am 1pm.

Darperir yr arian ar gyfer y prosiect hwn gan Trafnidiaeth Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Swyddog Datblygu Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru - Owen Griffkin ar owen.griffkin@pavo.org.uk

I weld y meini prawf cymhwysedd ac ymgeisio, ewch i Trên i Chwarae