
Rhwydwaith Iechyd a Lles y Trydydd Sector ym Mhowys

Rydym wrth ein bodd eich gwahodd i gyfarfod nesaf Rhwydwaith Iechyd a Llesiant PAVO. Mae’r rhwydwaith yn dod â sefydliadau’r trydydd sector, grwpiau cymunedol, a phartneriaid allweddol ynghyd i gydweithio ar wella canlyniadau iechyd a llesiant ym Mhowys.
Dyddiad: Dydd Mercher 1af Hydref 2025
Amser: 9:30yb – 1:45yp
Lleoliad: Canolfan Gymunedol Llanidloes, Mount Lane, Llanidloes, SY18 6EY
Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwerthfawr i:
- Rannu llwyddiannau a heriau ar draws y sector a chael dealltwriaeth gyffredin o gyflwr presennol Trydydd Sector Powys.
- Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am fodelu partneriaid statudol, cynlluniau a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol
- Clywed y diweddaraf am Sgyrsiau Cymunedol SPF PAVO a’r cyfle i gyfrannu at y sgwrs
- Rhwydweithio gyda chydweithwyr ac adeiladu cysylltiadau cryf ar draws sefydliadau
- Arddangos eich gwasanaeth, cyfleoedd neu adnoddau trwy gynnal stondin wybodaeth
Rydym yn eich annog yn gryf i ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad hwn sy’n argoeli i fod yn ddigwyddiad cydweithredol llawn gwybodaeth. Bydd rhagor o wybodaeth ac agenda terfynol yn cael ei dosbarthu cyn y cyfarfod.
Cwblhewch y ffurflen archebu isod i gadarnhau eich lle: https://forms.gle/
Edrychwn ymlaen at eich croesawu.