Loading Events

« All Events

Cyflwyniad i Fesur a Rheoli Gwerth Cymdeithasol

Chwefror 3, 2026 @ 9:30 am - 1:00 pm

Mae’r rhaglen hyfforddiant dau hanner diwrnod hon yn cynnig cyflwyniad ymarferol, cam wrth gam i’r broses Gwerth Cymdeithasol a SROI. Byddwn yn dechrau gyda rhywfaint o ddamcaniaeth, ond drwy ddefnyddio
enghreifftiau o’r byd go iawn byddwn yn gweithio drwy’r cwestiynau effaith ac yn adeiladu eich map gwerth eich hunan. https://mantellgwynedd.com/downloads/190123-measuring-and-managing-social-value-1-day.pdf 

Dan arweiniad Eleri Lloyd Roberts, Rheolwr Gwerth Cymdeithasol gyda Mantell Gwynedd. Cyflwyniad i werth cymdeithasol
 Deall beth yw gwerth cymdeithasol
 Sut i fesur gwerth cymdeithasol
 Gweithio drwy’r deg cwestiwn effaith a all eich helpu i ddeall effaith eich gwaith
 Cyflwyno’r map gwerth
 Adnabod meincnodau, safonau a fframweithiau canlyniadau presennol
 Ymarferion ymarferol i hwyluso  dealltwriaeth o sut i fesur gwerth cymdeithasol gweithgareddau eich mudiad, gan gynnwys mapio rhanddeiliaid a mapio’r ddamcaniaeth  newid
 Cyflwyniad i reoli gwerth cymdeithasol gan gynnwys cyflwyniad i’r pecyn offer ar gyfer mudiadau
 Sut i ddefnyddio data i wneud y mwyaf o’ch effaith gymdeithasol

Mae ein gweithgareddau yn ddiamau yn creu effeithiau heblaw am enillion ariannol. Boed yn newidiadau i iechyd a lles pobl, cymunedau cryfach, neu leihau’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus, mae’r rhain yn ganlyniadau pwysig i’n gwaith. Eto i gyd, prin y byddwn yn mesur yr effeithiau hyn ac yn eu cyfathrebu i ni ein hunain ac eraill mewn ffordd sy’n ystyrlon ac yn ddefnyddiol. Felly, mae gwerth cymdeithasol yn
derm eang a ddefnyddir i ddangos y gallwn ddal gwerth y tu hwnt i enillion ariannol yn unig.

Ymddiriedolwyr, staff neu wirfoddolwyr sydd am fabwysiadu’r fethodoleg Gwerth Cymdeithasol ac Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) o fewn eu mudiadau.

Cyflwyniad gwych ar gyfer mudiadau sy’n dymuno gweithredu’r broses.

lwyno gan Eleri Roberts o Gwerth Cymdeithasol Cymru

Cost: £40 for PAVO members

Book here: BOOKING FORM

 

Details

  • Date: Chwefror 3, 2026
  • Time:
    9:30 am - 1:00 pm
  • Event Category: