Loading Events

« All Events

Group B Safeguarding – Bronllys

Gorffennaf 8 @ 10:00 am - 4:00 pm

Mae ymarferwyr Grŵp B yn gweithio gyda phobl mewn lleoliad grŵp neu ar sail un-i-un.
Mae’r grŵp hwn yn cynnwys ymarferwyr sydd neu nad ydynt wedi’u cofrestru neu eu rheoleiddio, a gwirfoddolwyr.
Bydd ganddynt gyfrifoldeb arbennig i’r bobl y maent yn gweithio gyda nhw.
Bydd angen lefel uwch o wybodaeth arnynt na phobl yng ngrŵp A oherwydd pa mor agos y maent yngweithio gyda phobl.

Efallai y bydd gan y bobl y maent yn gweithio gyda nhw bryderon diogelu neu beidio.
Os oes pryderon diogelu, bydd llinell hysbysu glir yn y sefydliad.
Byddant yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb i hysbysu am bryderon, yn fewnol ac yn uniongyrchol i’r gwasanaethau cymdeithasol.

Egwyddorion cofiadwy
 Rydw i’n rhan allweddol o’r broses ddiogelu.
 Rydw i’n gwybod pryd, sut ac i bwy i hysbysu.
 Byddaf yn sicrhau bod llais yr unigolyn yn cael ei glywed.
 Yn ôl y safonau, dylai pobl yng ngrŵp B wybod:
 am ddeddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, a chodau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol ynghylch diogelu
 sut i weithio mewn ffyrdd sy’n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
 am y ffactorau, sefyllfaoedd a gweithredoedd a allai arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
 sut i hysbysu, ymateb a chofnodi pryderon neu honiadau sy’n ymwneud â diogelu.
Canlyniadau dysgu
Byddant eisoes wedi cwblhau dysgu grŵp B.
Ar ddiwedd gweithgaredd dysgu, fe fyddan nhw’n:
 gwybod y ddeddfwriaeth a'r polisïau perthnasol, codau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol sy’n adlewyrchu eu rôl mewn perthynas â diogelu
 gallu disgrifio sut i weithio mewn ffyrdd sy’n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
 gwybod sut i fod yn chwilfrydig pan fyddant yn dyst neu’n amau camdriniaeth, niwed neu esgeulustod, neu os bydd rhywun yn dweud eu bod yn cael eu cam-drin
 gallu esbonio ffactorau, sefyllfaoedd a gweithredoedd a allai arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
 gwybod sut, pryd ac i bwy i hysbysu am wahanol fathau o gamdriniaeth, esgeulustod a niwed.

 

BOOK HERE: BOOKING FORM

Details

Date:
Gorffennaf 8
Time:
10:00 am - 4:00 pm
Event Category: